Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.00 - 09.05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

(09.05 - 09.40)

3.

Cynllun Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru 2015-16

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Isobel Garner, Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

Gillian Body, Pennaeth Archwilio Perfformiad ac Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 1 - Cynllun Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru 2015-16

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Kevin Thomas a Gillian Body, Swyddfa Archwilio Cymru.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5, 6, 7, 8, 9 a 10

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.40 - 09.50)

5.

Cynllun Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru 2015-16: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd i ysgrifennu at Swyddfa Archwilio Cymru am ragor o wybodaeth.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru hefyd.

 

(09.50 - 10.10)

6.

Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

 

(10.10 - 10.25)

7.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Trafod ymateb y Pwyllgor

Papur 3 - Llythyr drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft.

 

(10.25 - 10.40)

8.

Bil yr Amgylchedd (Cymru): Ystyriaeth gychwynnol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol Bil yr Amgylchedd (Cymru), gan gytuno i wahodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i un o'i gyfarfodydd er mwyn craffu arno ymhellach.

 

(10.40 - 10.55)

9.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Ystyriaeth gychwynnol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod goblygiadau ariannol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a chytunodd i beidio â gwneud gwaith craffu ariannol pellach ar y Bil.

 

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

(10.55 - 11.10)

10.

Rhagolygon ar gyfer Trethi Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor i ailystyried y mater yn ei gyfarfod nesaf.