Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau

(09:30-10:15)

3.

Swyddfa Archwilio Cymru – ystyried rhestr ffioedd 2014/15

FIN(4)-05-14 (papur 1)

 

Isobel Garner - Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Ann-Marie Harkin - Cyfarwyddwr Grŵp (Adnoddau), Swyddfa Archwilio Cymru

Terry Jones - Rheolwr Technegol, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor gynllun Swyddfa Archwilio Cymru i godi ffioedd ac fe’i cymeradwywyd ar yr amod bod rhai newidiadau technegol ar ôl 1 Ebrill 2014, pan ddaw’r Bwrdd i rym yn gyfreithiol.

 

3.2 Gofynnodd y Pwyllgor i Swyddfa Archwilio Cymru gyflwyno sesiwn i’r Pwyllgor i esbonio’i chyfrifon, ei hamcangyfrifon a’i chyfraddau.

 

 

(10:15)

4.

Cyfarfodydd preifat – y Pwyllgor Cyllid

Eitemau 5, 6 a 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:15-10:30)

5.

Swyddfa Archwilio Cymru – Memorandwm Dealltwriaeth ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu

FIN(4)-05-14 (papur 2)

 

Cofnodion:

5.1 Cytunwyd ar y Memorandwm Dealltwriaeth drafft a nododd y Pwyllgor y caiff ei gyhoeddi ar 1 Ebrill.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru weld copi drafft cyn y caiff ei ddefnyddio.

 

(10:30-11:00)

6.

Ymchwiliad i arfer da o ran y gyllideb: ystyried y cylch gorchwyl

FIN(4)-05-14 (papur 3)

 

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau’r cylch gorchwyl arfaethedig gan gytuno y byddai’n well ganddynt gynnal yr ymchwiliad mewn dwy ran. Derbyniwyd y cylch gorchwyl a’r dull o gasglu tystiolaeth a bydd y Pwyllgor yn ystyried cyngor y cynghorydd arbenigol mewn cyfarfod arall.

(11:00-11:30)

7.

Cyllido Addysg Uwch: ystyried y prif faterion

FIN(4)-05-14 (papur 4)

 

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion. Bydd y clercod yn paratoi adroddiad drafft i’w drafod ar ôl toriad y Pasg.