Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Price 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:30 - 9:35)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones.

 

(9:35 - 10:30)

2.

Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Gwerth Cymru

FIN(4) 12-12 – Papur 1- Gwerth Cymru

 

Alison Standfast, Dirprwy Gyfarwyddwr (Caffael), Gwerth Cymru

Paul Williams, Swyddog Gweithredol Caffael Strategol, Gwerth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Alison Standfast, Dirprwy Gyfarwyddwr (Caffael), Gwerth Cymru, a Paul Griffiths, Swyddog Gweithredol Caffael Strategol, Gwerth Cymru, i’r cyfarfod.

 

2.2 Yn sgil problemau technegol, penderfynodd y Pwyllgor ohirio’r sesiwn dystiolaeth ac i ysgrifenu at Gwerth Cymru, gan ofyn cwestiynau nas gofynnwyd gan y Pwyllgor.

 

4.

Papurau i'w nodi

FIN(4) 12-12 – Papur 3 – Goblygiadau ariannol Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

FIN(4) 11-12 – Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papur ar oblygiadau ariannol Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 

3.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2012.

 

 

Gohiriodd y Cadeirydd drafodion y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.47. Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42.

(10:30 - 11:15)

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

FIN(4) 12-12 – Papur 2 – Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

 

Paul Silk, Cadeirydd, y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Yr Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

Dyfrig John, Cadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru; yr Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Dyfrig John, Cadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality; ac Ed Sherriff, Cynghorydd Economaidd, i’r cyfarfod preifat.

 

4.2 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.

(11:30 - 11:45)

7.

Ymateb i'r ymgynghoriad ar bŵer benthyca newydd i'r Alban

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ymateb i’r ymgynghoriad ar bŵer benthyca newydd i'r Alban, a gaiff ei anfon at Drysorlys ei Mawrhydi cyn hir.

(11:45 - 12:00)

8.

Ymdrin â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2013-2014

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei ddull o graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014.

Trawsgrifiad