Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones.

 

1.3        Datganodd Mike Hedges fuddiant fel cyn-weithiwr yng Ngholeg Morgannwg.

(9:20 - 10:00)

2.

Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

 

 

Cynhadledd Fideo: Y Comisiwn Ewropeaidd

FIN(4) 02-12 – Papur 1, Papur 2

·         Guy Flament, Swyddog Polisi Rhanbarthol y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol, y Comisiwn Ewropeaidd

·         Marc Vermyle, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Gyflogaeth, y Comisiwn Ewropeaidd

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Guy Flament, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol, y Comisiwn Ewropeaidd; Agnes Lindemans, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol; a Marc Vermyle, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Cyflogaeth, i gyfarfod y Pwyllgor drwy fideo gynhadledd.

 

2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

·         Cytunodd y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol i ddarparu gwiriad o’i thystiolaeth bod economi Cymru’n ddibynnol iawn ar y sector cyhoeddus.

 

·         Cytunodd y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Cyflogaeth i ddarparu gwybodaeth am y defnydd o gyfraddau ymyrraeth uwch i gefnogi prosiectau newydd yng Nghymru ers 2009.

 

(10:00 - 10:40)

3.

Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

FIN(4) 02-12 – Papur 3

·         Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm - Ewrop ac Adfywio

·         Neville Davies, Cynghorwr Ewropeaidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Phennaeth Polisi Ewropeaidd a Chyllid Allanol, Cyngor Sir Gaerfyrddin

·         Peter Mortimer, Cynghorwr Ewropeaidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Rheolwr Adfywio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm - Ewrop ac Adfywio, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a Neville Davies, Cynghorwr Ewropeaidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Phennaeth Polisi Ewropeaidd a Chyllid Allanol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, i’r cyfarfod.

 

3.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

·         Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu manylion ynghylch nifer y prosiectau sy’n cael eu harwain gan lywodraeth leol yng Nghymru sydd wedi defnyddio cyfraddau ymyrryd uwch.

 

(10:40 - 11:20)

4.

Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Coleg Sir Benfro a Choleg Morgannwg

Coleg Sir Benfro

FIN(4) 02-12 – Papur 4

·       Nicky Howells, Rheolwr Cyllid Allanol, Coleg Sir Benfro

·       David Evans, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Coleg Morgannwg

FIN(4) 02-12 – Papur 5

·       Judith Evans, Pennaeth, Coleg Morgannwg

·       Karen Phillips, Dirprwy Bennaeth, Coleg Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Pwyllgor Nicky Howells, Rheolwr Cyllid Allanol, Coleg Sir Benfro; David Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Coleg Sir Benfro; Judith Evans, Pennaeth, Coleg Morgannwg; a Karen Phillips, Dirprwy Bennaeth, Coleg Morgannwg, i’r cyfarfod.

 

 

4.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

(11:30 - 12:00)

5.

Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Pwyllgor Monitro'r Rhaglen

Dr Mark Drakeford, Cadeirydd, y Pwyllgor Monitro'r Rhaglen

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Pwyllgor Dr Mark Drakeford, Cadeirydd Pwyllgor Monitro'r Rhaglen.

 

5.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tyst.

6.

Papurau i'w nodi

FIN(4) 02-12 – Papur 6 – Ymateb y Gweinidog Cyllid i’r gwaith o graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013

 

FIN(4) 02-12 – Papur 7 – Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013

 

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013.

 

6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013.

 

6.3 Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

Items 8 and 9.

(12:00 - 12:25)

8.

Benthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - Cylch gorchwyl posibl a gwybodaeth gefndir berthnasol

Cofnodion:

8.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei ymchwiliad i fenthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.

(12:25 - 12:30)

9.

Protocol y Gyllideb Ddrafft gyda Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y protocol sy’n bodoli gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb ddrafft.

Trawsgrifiad

View the meeting transcript.