Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00-09:15)

1.

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau y papur briffio ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) a chytunwyd na fyddent yn gwahodd yr Aelod sy’n gyfrifol (Darren Millar AC) i ateb cwestiynau am oblygiadau ariannol y Bil oni bai bod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn nodi pryderon yn ystod ei gyfnod o graffu ar y Bil.

 

(09:15-09:45)

2.

Cyllido Addysg Uwch: Trafod yr adroddiad drafft

FIN(4)-07-14(papur 1)

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

(09:45-10:45)

3.

Swyddfa Archwilio Cymru: Sesiwn friffio ar y trefniadau newydd yn deillio o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru

Kevin Thomas – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru

Terry Jones – Rheolwr Technegol, Swyddfa Archwilio Cymru

Nicola Evans - Rheolwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru wybodaeth i’r Pwyllgor am ei chynllun ffioedd a graddfeydd y ffioedd hynny.

 

(11:00)

4.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

(11:00)

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nodwyd y papurau.

 

5.1

Bil Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (20 Mawrth 2014)

Dogfennau ategol:

5.2

Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014: Llythyr gan y Gweinidog Cyllid (14 Ebrill 2014)

Dogfennau ategol:

5.3

Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Cyllid Cymru (Ebrill 2014)

Dogfennau ategol:

5.4

Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Brecwast Rhanddeiliaid Cyllid Cymru

Dogfennau ategol:

(11:05-12:00)

6.

Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Sesiwn dystiolaeth 5

FIN(4)-07014(papur 2)

Briff ymchwil

 

Edwina Hart AC - Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Rob Hunter - Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth am yr ymchwiliad i Cyllid Cymru.

 

6.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i anfon nodyn ar y canlynol:

 

·       Canran y busnesau a gyfeiriwyd at Cyllid Cymru o’r sector bancio a sectorau proffesiynol eraill.

·       Y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad a gynhelir gan Robert Lloyd-Griffiths, a’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a gyflawnwyd hyd yma.

·       I anfon copi o’r adroddiad ar gyfraddau llog.

·       Ystadegau o ran y categorïau o fusnesau sydd wedi cael arian gan Gyllid Cymru.

·       Rhestr sy’n nodi’r ffynonellau arian sy’n cyfrannu at Gyllid Cymru, a’r enillion a ddisgwylir.

 

 

 

(12:00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 8

 

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:05-12:30)

8.

Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.