Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Price 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.00 - 9.05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

(9.00 - 9.45)

2.

Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Richard Clarke, Pennaeth yr Uned Buddsoddi i Arbed

Jeff Andrews, Cynghorydd Arbennig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jeff Andrews, Cynghorydd Arbennig; a Richard Clarke, Pennaeth Buddsoddi i Arbed.

 

2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Nodyn ar ddosbarthiad daearyddol ceisiadau Buddsoddi i Arbed;

·         Nodyn yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod prosiectau yn glir o ran y meini prawf y mae angen iddynt eu dilyn wrth wneud cais am gyllid Buddsoddi i Arbed;

·         Rhagor o fanylion am aelodaeth panel cyfnod 2, gan gynnwys manylion am lefelau’r arbenigedd ar y paneli hynny, ac am y camau a gymerir i sicrhau bod y broses yn codi llai o ofn ar y rhai sy’n ymgeisio;

·         Eglurhad o sut bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli’r gred sydd ar led bod tebygrwydd rhwng y meini prawf asesu ar gyfer y Gronfa Buddsoddi i Arbed a’r Gronfa Cydweithio Rhanbarthol;

·         Nodyn ar y gwahaniaeth rhwng y gwaith gwerthuso a wnaed gan Brifysgol Abertawe ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd a Phort Talbot mewn perthynas â’r prosiect Darbodus.

 

(9.45 - 10.10)

3.

Buddsoddi i Arbed - Adborth ynghylch ymweliadau aelodau'r Pwyllgor

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor adborth gan aelodau’r Pwyllgor sydd wedi cael cyllid Buddsoddi i Arbed.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi adroddiadau pob ymweliad. 

4.

Papurau i'w nodi

 

FIN(4) 01-13 – Papur 1 – Goblygiadau ariannol y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

FIN(4) 01-13 – Papur 2 – Goblygiadau ariannol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

FIN(4) 01-13  Papur 3 – Gohebiaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Buddsoddi i Arbed

FIN(4) 21-12 (Mins) – Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.Nododd y Pwyllgor:

·         bapur ar oblygiadau ariannol y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

·         papur ar oblygiadau ariannol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

·         cofnodion y cyfarfod blaenorol ar 5 Rhagfyr 2012.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 6 to 7.

(10.10 - 10.40)

6.

Trafod yr ymatebion Gweinidogol i adroddiadau'r Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion gan Weinidogion i adroddiadau’r Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2013-14.  

(10.40 - 11.00)

7.

Trafod y dystiolaeth ynghylch Buddsoddi i Arbed

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar ei ymchwiliad i Buddsoddi i Arbed a chytunodd i ystyried adroddiad drafft mewn cyfarfod arall. 

Trawsgrifiad