Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Price 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:30 - 9:35)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

 

(9:35 - 10:30)

2.

Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 - Tystiolaeth gan lywodraeth leol

FIN(4) 16-12 – Papur 1 – Cyngor Ceredigion

Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyllid, Cyngor Ceredigion

 

FIN(4) 16-12 – Papur 2 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mark Owen, Pennaeth Cyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyllid Cyngor Sir Ceredigion, a Mark Owen, Pennaeth Cyllid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i’r cyfarfod.

 

2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd y tystion i ddarparu:

·         Nodyn am ba gyfran o gyllideb gofal cymdeithasol eu hawdurdod sy’n cael ei gwario ar ffioedd gofal cartref.

(10:45 - 11:45)

3.

Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 - Tystiolaeth gan sefydliadau addysg

FIN(4) 16-12 – Papur 3 – Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Hywel Thomas – Dirprwy Is-ganghellor, Ymgysylltu a Rhyngwladol, Prifysgol Caerdydd

Dr Sue Hybart, Cyfarwyddwr Gynllunio, Prifysgol Caerdydd

Hugh Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Prifysgol Caerdydd

 

FIN(4) 16-12 – Papur 4 – Coleg Glannau Dyfrdwy

David Jones, Pennaeth, Coleg Glannau Dyfrdwy

John Graystone, Prif Weithredwr, Colegau Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladol ac Ymgysylltu), Prifysgol Caerdydd; Dr Sue Hybart, Cyfarwyddwr Cynllunio, Prifysgol Caerdydd; Hugh Jones, Prif Swyddog Gweithredu, Prifysgol Caerdydd; David Jones, Prifathro, Coleg Glannau Dyfrdwy; a John Graystone, Prif Weithredwr, Colegau Cymru.

 

3.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Prifysgol Caerdydd i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

 

·         Gwybodaeth bellach am y buddion economaidd ehangach sy’n deillio o gael myfyrwyr tramor ym Mhrifysgol Caerdydd.

·         Gwybodaeth bellach am yr effaith y mae cwtogi cymorth ar gyfer benthyciadau i fyfyrwyr yn Lloegr wedi’i chael ar rifau cofrestru mewn awdurdodau addysg uwch yng Nghymru.

 

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 6.

Cofnodion:

Eitem 6.

(11:45 - 12:00)

6.

Ystyried y dystiolaeth ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014.

Trawsgrifiad