Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.15 - 9.30)

1.

Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru

Briffio gan Dîm Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Tîm Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol bapur briffio i’r Pwyllgor ar Brentisiaethau yng Nghymru.

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

(9.30 - 10.30)

3.

Sesiwn graffu gyda'r Dirprwy Weinidog Sgiliau ar yr ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru

 

·         Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

 

·         Sam Huckle, Pennaeth Polisi Prentisiaeth

 

·         Owen Evans, Director, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Jeff Cuthbert AC – y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Sam Huckle, Pennaeth Polisi Prentisiaeth, Llywodraeth Cymru a Owen Evans, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru. Bu’r Aelodau’n holi’r Dirprwy Weinidog ar yr ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor i gwrdd yn breifat ar gyfer yr holl fusnes oedd yn weddill.

(10.30 - 10.45)

5.

Y Papur Gwyn ar Deithio Llesol

Cofnodion:

Bu’r Aelodau’n trafod y Papur Gwyn ar Deithio Llesol. Bydd trafodaethau pellach yn cael eu trefnu.

(10.45 - 12.00)

6.

Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru: Trafod yr Adroddiad Drafft

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar wneud rhai gwelliannau a gaiff eu cytuno y tu allan i gyfarfod o’r Pwyllgor.

Trawsgrifiad