Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Dirprwy Glerc: Meriel Singleton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates; roedd Christine Chapman yn dirprwyo ar ei ran.

(13:30-14:15)

2.

Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020: sesiwn dystiolaeth

Jeroen Jutte, Dirprwy Bennaeth Uned Deddfwriaeth a Pholisi’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a Chynllunio Ariannol, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chynhwysiant

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jeroen Jutte a XX i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

2.2 Cytunodd Jeroen Jutte i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynghylch:

·         Y mentrau peilot sydd wedi defnyddio offerynnau peiriannu ariannol a ariannwyd drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

·         Y sail resymegol i’r dull arfaethedig o werthuso’r cronfeydd strwythurol fel y’i nodir yn y rheoliadau drafft, a sut y mae hynny’n wahanol i’r trefniadau presennol.   

(14:15 - 15:00)

3.

Ymchwiliad i'r cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020: sesiwn dystiolaeth

Derek Vaughan, ASE o Gymru

Jill Evans, ASE o Gymru

Cofnodion:

3.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Jill Evans ASE a Derek Vaughan ASE. Holodd yr Aelodau y tystion.

Trawsgrifiad