Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martha Howells 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF 2 MB. Gweld fel HTML 311 KB.

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Cafwyd ymddiheuriadau gan Jeff Cuthbert AC a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd David Rees AC ar ran Gwenda Thomas AC a dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Jeff Cuthbert AC.

1.2        Datganodd David Rees AC a Joyce Watson AC eu bod ill dau yn aelodau o Uno’r Undeb.

1.3        Datganodd John Griffiths AC ei fod yn aelod o Uno’r Undeb a Cymuned.

1.4        Datganodd Mick Antoniw AC ei fod yn aelod o GMB.

(10.00-11.00)

2.

Cynrychiolwyr diwydiant - Cymorth ar gyfer y Diwydiant Dur yng Nghymru

Tim Morris, Pennaeth Materion Allanol, Tata Steel Europe

Chris Hagg, Pennaeth Materion Allanol, Celsa Steel

Virinder Garg, Prif Swyddog Gweithredol, Liberty Steel Newport Ltd

Haydn Swidenbank, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Liberty Steel Newport Ltd

Cofnodion:

2.1 Atebodd Tim Morris, Chris Hagg, Virinder Garg a Haydn Swidenbank gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

(11.00-11.45)

3.

Cynrychiolwyr undebau - Cymorth ar gyfer y Diwydiant Dur yng Nghymru

Steve McCool, Swyddog Cenedlaethol ar gyfer Dur, Cymuned

Rob Edwards, Prif Drefnydd, Cymuned

Tony Brady, Swyddog Cydlynu Rhanbarthol, Unite

Cofnodion:

3.1 Atebodd Steve McCool, Rob Edwards a Tony Brady gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

(12.00-13.00)

4.

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth - Cymorth ar gyfer y Diwydiant Dur yng Nghymru

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Steve Phillips, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Steve Phillips gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Gorsaf Bŵer TATA Steel Port Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

6.

Cam gweithredu yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y derbynyddion a ganlyn yn amlinellu pryderon ynghylch y diwydiant dur yng Nghymru:

 

Y Gwir Anrhydeddus David Cameron AS, Prif Weinidog y DU

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Y Gwir Anrhydeddus Sajid Javid AS, Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau

Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Edwina Hart MBE CStJ AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth