Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 385KB) Gweld fel HTML (287KB)

 

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies AC, Mick Antoniw AC, Eluned Parrott AC a Gwenda Thomas AC.

 

2.

Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru

(09.30-10.20)

2.1

Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Transport Scotland

Aidan Grisewood, Cyfarwyddwr Rheilffyrdd, Transport Scotland

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.1 Atebodd Aidan Grisewood gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

(10.30-11.30)

2.2

Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Network Rail

Paul McMahon, Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybrau – Cymru, Network Rail

Tim James, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio, Network Rail

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2.1 Atebodd Paul McMahon a Tim James gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

2.2.2 Cynigiodd Paul McMahon a Tim James ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

·         Manylion am y dadansoddiad a gynhaliwyd gan dîm rheoli asedau Network Rail o'r ardaloedd yng Nghymru y mae llifogydd wedi effeithio arnynt droeon a sut y maent yn mesur y risg i'r rhwydwaith yn y dyfodol a'r gost ar gyfer gwella gallu'r rhwydwaith i wrthsefyll llifogydd o'r fath.

·         Data Network Rail ar faterion ariannol a pherfformiad mewn perthynas â llwybr Cymru.

 

(11.30-12.30)

2.3

Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru - Cyrff rheoleiddio a chynllunio rheilffyrdd

John Larkinson, Cyfarwyddwr Rheoleiddio Economaidd a Defnyddwyr, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd

Paul Plummer, Prif Weithredwr, Rail Delivery Group

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3.1 Atebodd John Larkinson a Paul Plummer gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

2.3.2 Cynigiodd John Larkinson ddarparu adroddiad blynyddol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ar effeithlonrwydd / perfformiad ariannol Network Rail yn ôl llwybr.

 

(13.30-14.30)

2.4

Ymchwiliad i’r Blaenoriaethau ar gyfer Dyfodol Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth y DU

Colin Poole, Rheolwr Strategaeth Rheilffyrdd Rhanbarthol, Yr Adran Drafnidiaeth

Brian Etheridge, Cyfarwyddwr Cyflenwi Integredig, Yr Adran Drafnidiaeth

 

Cofnodion:

2.4.1 Atebodd Colin Poole a Brian Etheridge gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Canlyniad Arolwg y Rail Freight Group 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a dechrau'r cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a dechrau'r cyfarfod nesaf.

 

(14.30-14.40)

5.

Trafodaeth am y blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor olynol

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor olynol.