Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 345KB) Gweld fel HTML (383KB)

 

(09.30-10.30)

1.

Ystyriaeth o'r Adroddiad Drafft ar Botensial yr Economi Forol yng Nghymru

Cofnodion:

1.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft ar Botensial yr Economi Forol yng Nghymru.

 

(10.45-11.00)

2.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Undebau Llafur

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Undebau Llafur.

 

3.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies AC a Gwenda Thomas AC.

 

4.

Craffu ar y Gyllideb Ddrafft

(11.00-12.00)

4.1

Craffu ar y Gyllideb Ddrafft - y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Julie James AC, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Huw Morris, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru

Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-Adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru

Andrew Clark, Dirprwy Cyfarwyddwr, Is-Adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Atebodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Huw Morris, Neil Surman ac Andrew Clark gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

4.1.2 Cynigiodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, ddarparu’r hyn a ganlyn:

·         dadansoddiad o wir nifer y myfyrwyr o Loegr a myfyrwyr rhyngwladol a ymunodd â'r system addysg uwch yng Nghymru wedi'i fesur yn erbyn y nifer ddisgwyliedig ar gyfer y pedair blynedd academaidd ddiwethaf.

·         adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar y canlyniadau a bennwyd ar gyfer y rhaglen cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran, Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth Cymru, pan fydd y broses gymeradwyo wedi'i chwblhau.

·         adrodd yn ôl i'r Pwyllgor am y gwersi a ddysgwyd a fydd yn sicrhau y bydd y rhaglen hyfforddiaethau ddiweddaraf yn effeithiol ac yn sicrhau gwerth da am arian ac yn sicrhau cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar hyfforddeiaethau a gostyngiad yn y nifer sy'n rhoi'r gorau iddynt, pan fydd hi wedi gorffen ei hadolygiad o hyfforddeiaethau.

 

(14.00-15.00)

4.2

Craffu ar y Gyllideb Ddrafft - Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Simon Jones, Cyfarwyddwr, Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.1 Atebodd Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, a Simon Jones gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

4.2.2 Cynigiodd Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

·         cymhariaeth o un flwyddyn i'r llall o Gyllideb Atodol 2015-16 a'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2016-17

·         eglurhad ysgrifenedig o'r dyraniad cyllid i gam gweithredu'r cynllun Ffyrdd a Rheilffyrdd

·         eglurhad ysgrifenedig o'r gostyngiad yn y dyraniad refeniw Economi a Gwyddoniaeth rhwng Cyllideb Atodol 2015-16 a'r Gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17, gan ystyried yn benodol y gwasanaethau neu raglenni y bydd y gostyngiadau hyn yn effeithio arnynt fwyaf yn 2016-17

·         enghreifftiau o gwmnïau mewn rhai sectorau sydd wedi cyflawni canlyniadau / effaith dda o ran twf a swyddi; dadansoddiad o sut yr aed ati i fesur maint eu llwyddiant; a gwybodaeth am feysydd penodol yn y gyllideb lle mae'r Gweinidog wedi cynyddu dyraniadau ar gyfer 2016-17 yn seiliedig ar berfformiad da yn y gorffennol. Cytunodd y Gweinidog hefyd y byddai'r nodyn yn amlinellu'r gweithgareddau aflwyddiannus neu rai nad oeddent yn darparu gwerth am arian, na fyddant yn cael eu hariannu yn 2016-17 o ganlyniad i hyn

·         rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor cyn gynted â phosibl am ei phenderfyniad ynghylch y cynlluniau ardrethi busnes a gyflwynir yn 2016-2017

·         nodyn am gyllid refeniw a chyfalaf ar gyfer prosiectau a rhaglenni trafnidiaeth sy'n para llawer o flynyddoedd

·         ystyried a allai'r dyraniad cyllid ar gyfer y seilwaith teithio llesol fod yn fwy tryloyw a darparu dadansoddiad o ddyraniadau cyllid blynyddoedd blaenorol.

 

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Cyfleoedd Cyllido a Pholisi'r UE ar gyfer Cymru 2014-2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

5.2

Bil Cymru Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

5.3

Etifeddiaeth y Pwyllgor Cyllid - proses y Gyllideb a chraffu ariannol ar ddeddfwriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

5.4

Ardrethi Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

5.5

Horizon 2020 ac Erasmus+

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.5.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

5.6

Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6.1 Nododd y Pwyllgor y papur.