Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 479KB) Gweld fel HTML (524KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gwenda Thomas AC.

(09.30-10.15)

2.

Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd

Neil Hanratty, Cyfarwyddwr Datblygiad Economaidd, Cyngor Dinas Caerdydd

Claire Moggridge, Rheolwr Gweithredol – Rheoli Rhwydwaith Trafnidiaeth, Cyngor Dinas Caerdydd

Josh Jones, Prif Uwch-arolygydd, Heddlu De Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hanratty. Roedd Paul Carter, Rheolwr Gweithredol ar gyfer Trafnidiaeth a Gweithrediadau’r Ddinas  yn bresennol yn ei le.

2.2 Atebodd Claire Moggridge, Paul Carter a Josh Jones gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

2.3 Cytunodd Claire Moggridge i ddarparu’r hyn a ganlyn:

·         Manylion o ran nifer y tacsis sy’n gweithredu yng Nghaerdydd, ac unrhyw hyfforddiant a ddarperir er mwyn delio â digwyddiadau mawr.

·         Sylwadau ynghylch a fyddai datganoli rheoleiddio tacsis a hurio preifat yn gallu mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o drafnidiaeth yn ystod digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd.

·         Sylwadau ynghylch a oedd ymateb gyrwyr tacsis i'r ymosodiadau rhywiol difrifol yng Nghaerdydd ym mis Medi yn ddigonol, yn enwedig yr awgrymiadau bod gyrwyr wedi parhau i wrthod mynd â menywod ar deithiau byr.

(10.30-11.30)

3.

Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd - Gwasanaethau Trenau

Ian Bullock, Rheolwr Gyfarwyddwr, Trenau Arriva Cymru

Lynne Milligan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trenau Arriva Cymru

Mark Hopwood, Rheolwr Gyfarwyddwr, Great Western Railway

Paul McMahon, Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybrau – Cymru, Network Rail

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Ian Bullock, Lynne Milligan, Mark Hopwood a Paul McMahon gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

3.2 Chwaraeodd Trenau Arriva Cymru fideo byr.

3.3 Chwaraeodd Great Western Railway ffeil sain fer.

(11.30-12.00)

4.

Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd - Gwasanaethau Bysiau

Cynthia Ogbonna, Rheolwr Gyfarwyddwr, Bws Caerdydd

Gareth Stevens, Rheolwr Datblygu Busnes, Bws Caerdydd

John Pockett, Cyfarwyddwr, Cysylltiadau Llywodraethol, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Cynthia Ogbonna, Gareth Stevens a John Pockett gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

(13.00-14.00)

5.

Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd - Trefnwyr

Mick Wright, Pennaeth Gwasanaethau Twrnamaint, Cwpan Rygbi’r Byd

Christopher Garnett, Cynghorydd Trafnidiaeth Strategol, Cwpan Rygbi’r Byd

Tom Legg, Rheolwr Trafnidiaeth Twrnamaint, Cwpan Rygbi’r Byd

Neil Snowball, Prif Swyddog Gweithredu, Cwpan Rygbi’r Byd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Atebodd Mick Wright, Christopher Garnett, Tom Legg a Neil Snowball gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

5.2 Cytunodd Neil Snowball i ddarparu copi o’r asesiad o effaith economaidd a gynhaliwyd cyn ac ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd 2015.

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

6.2

Llythyr i'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

6.3

Gwybodaeth ychwanegol a ddarperir gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 15 Hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(14.00-14.10)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - Comisiynydd Busnesau Bach

Gareth Pembridge, Gwasanaethau Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Comisiynydd Busnesau Bach a chytunwyd arno.

(14.10-14.30)

9.

Ystyriaeth o Fil Cymru Drafft

Gareth Pembridge, Gwasanaethau Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cofnodion:

9.1 Ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau’r Bil Cymru Drafft ar gylch gwaith y Pwyllgor.

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i ofyn am eglurhad ar rannau o’r Bil Cymru Drafft.