Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 291KB) Gweld fel HTML (283KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AC a Gwenda Thomas AC.

1.2 Datganodd Dafydd Elis-Thomas AC ei fod yn Ganghellor Prifysgol Bangor.

1.3 Datganodd Eluned Parrott AC fod ei gŵr yn gweithio i sefydliad Addysg uwch.

(09.30-10.30)

2.

Craffu ar Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru

Yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru

Richard Rossington, Pennaeth Cydnerthedd, Risg a Busnes Gwyddoniaeth y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru

Geraint Green, Pennaeth Busnes ac Arloesi, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd yr Athro Julie Williams, Geraint Green a Richard Rossington gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

(10.45-11.45)

3.

Craffu ar waith Cyngor Cynghori Cymru ar Arloesi

Ian Menzies, Cyd-gadeirydd Cyngor Cynghori Cymru ar Arloesi

Adam Price, Cyd-gadeirydd Cyngor Cynghori Cymru ar Arloesi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Ian Menzies ac Adam Price gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Bil Cymru Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(11.45-11.50)

6.

Ystyriaeth o'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lles a Gwaith

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lles a Gwaith a chytunwyd arno.

(11.50-12.00)

7.

Ystyriaeth o'r adroddiad drafft ar Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

(12.00-12.05)

8.

Blaenraglen Waith Gwanwyn 2016

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Flaenraglen Waith.