Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jeff Cuthbert. Dirprwyodd Sandy Mewies ar ran Jeff Cuthbert.

(10.00-11.00)

2.

Ymchwiliad i Dwristiaeth - Sesiwn Dystiolaeth 9

Ken Skates AC, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Manon Antoniazzi,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Twristiaeth a Marchnata

Dan Clayton-Jones, Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Twristiaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

(11.00-12.00)

3.

Porthladdoedd a Thrydaneiddio Rheilffordd - craffu dilynol

Edwina Hart AC, Y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
James Price,
Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Jeff Collins, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Seilwaith, Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ddychwelyd i’r Pwyllgor ar gyfer craffu pellach ar ganlyniad ei thrafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ynglŷn ag ariannu trydaneiddio.

3.3 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar yr amserlen ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru.

3.4 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor pan fydd ganddi ragor o wybodaeth am y digwyddiad yn y gogledd o ran nam ar ddrws trên.

3.5 Cynigodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ddarparu papur i’r Pwyllgor ar ddatblygu isadeiledd porthladdoedd yng nghyd-destun dinas-ranbarthau.

 

 

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.