Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC, Dafydd
Elis-Thomas AC a Byron Davies AC. Dirprwyodd Andrew RT Davies AC ar ran Byron Davies
AC ac ar gyfer eitemau 4 a 5. |
|
Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 5) (09.15-10.00) Tystion: Ruth Sinclair-Jones, Cyfarwyddwr,
Asiantaeth Genedlaethol y DU, Erasmus+, British Council Natasha Hale, Pennaeth Sectorau, MEDIA Antennae UK Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ruth Sinclair-Jones, Cyfarwyddwr
Asiantaeth Genedlaethol y DU, Erasmus+, British Council a Natasha Hale,
Pennaeth Sectorau, MEDIA Antennae UK. 2.2. Cytunodd y British Council i ddarparu gwybodaeth fanwl am berfformiad
sefydliadau o Gymru yn y rhaglen ddysgu gydol oes a’r rhaglenni ieuenctid. 2.3 Cytunodd MEDIA Antennae UK i ddarparu data ar gyfranogiad Cymru yn
rhaglen y cyfryngau a’r cymorth a ddarperir ganddynt (digwyddiadau ac ati.) |
|
Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 6) (10.00-10.50) Tystion: Elaina Gray, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, Canolfan Gelfyddydau Chapter Gethin Scourfield, Cynhyrchydd, Fiction Factory Films Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol, Tinopolis Cofnodion: 3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Elaina Gray, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Canolfan Gelfyddydau Chapter a Gethin
Scourfield, Cynhyrchydd, Fiction Factory Films. |
|
Ardaloedd Menter (11.00-11.45) Tystion: Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
Llywodraeth Cymru Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth, Llywodraeth
Cymru Yr Arglwydd Bourne, Cadeirydd y cyd Fyrddau Ardaloedd
Menter Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth
Cymru. Cefnogwyd y Gweinidog gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr Strategaeth. Roedd
yr Arglwydd Bourne, Cadeirydd y Byrddau Ardaloedd Menter ar y Cyd hefyd yn
bresennol yn y sesiwn. 4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu: - nodyn (a diweddariadau rheolaidd yn y
dyfodol) am y cynnydd o ran darparu band eang cyflym iawn i ardaloedd menter o
dan y rhaglen Cyflymu Cymru; - nodyn am sut yr eir i’r afael â
darparu band eang cyflym iawn (a’r dechnoleg band eang a ddefnyddir) mewn ardaloedd
nad ydynt yn addas ar gyfer y rhaglen Cyflymu Cymru; - y ffigurau o ran nifer y busnesau sy’n
rhan o’r arolwg hydredol hirdymor, a’r gyfran o gyfanswm nifer y busnesau mewn
ardaloedd menter yr oedd y ffigurau hynny’n eu cynnwys; - nodyn ynghylch nifer y ceisiadau
cymorth ardrethi busnes a gymeradwywyd fesul ardal ac, unwaith y bydd yn barod,
gwybodaeth am y gyfran o’r dyraniad o’r gyllideb a ymrwymwyd, sef £20 miliwn, a
wariwyd ar gymorth ardrethi busnes mewn gwirionedd, gan adlewyrchu’r niferoedd sy’n
manteisio ar y cymorth hwn; - fel rhan o’r diweddariad rheolaidd,
dadansoddiad o’r ffordd y mae ardaloedd menter unigol yn perfformio o ran y
swyddi a grëwyd, a gynorthwywyd ac a ddiogelwyd, a dangosyddion perfformiad
allweddol perthnasol eraill (i’r graddau y gellir gwneud hynny o gofio
ystyriaethau o ran sensitifrwydd
masnachol). |
|
Maes Awyr Caerdydd (11.45-12.30) Tystion: Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
Llywodraeth Cymru Jeff Collins, Rheolwr Prosiect-Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth
Cymru. Cefnogwyd y Gweinidog gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adran yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru a Jeff Collins,
Rheolwr Prosiect, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru. 5.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu: - nodyn am y gronfa cysylltedd teithiau awyr rhanbarthol a gyhoeddwyd yn y
gyllideb a sut y bydd hynny’n cyd-fynd â’r canllawiau newydd ar gymorth
gwladwriaethol; - nodyn am gymorth gwladwriaethol yng nghyd-destun y twf a ragwelir yn
nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r maes awyr; - nodyn am ddefnydd swyddogol Llywodraeth Cymru o faes awyr Caerdydd; - nodyn am ddefnyddio llain lanio maes awyr Caerdydd gyda’r nos - ardal
fenter Sain Tathan. |
|
Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 7) (13.20-14.00) Tystion: Anne Howells, Swyddog Datblygu Ewropeaidd, Prifysgol Aberystwyth Dr Liz Mills, Dadansoddwr Polisi Annibynnol Dr. David Llewellyn, Ymgynghorydd annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anne
Howells, Swyddog Datblygu Ewropeaidd, Prifysgol Aberystwyth; Dr Liz Mills,
Dadansoddwr Polisi Annibynnol a Dr David Llewellyn, Ymgynghorydd Annibynnol. |
|
Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (14.00-14.45) Tystion: Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid Damien O’Brien, Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru Jeff Andrews,Cynorthwydd
Polisi Arbennigol Jane McMillan, Pennaeth Rheoli Rhaglenni, Cronfa Strwythurol Ewropeaidd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid. Cefnogwyd y Gweinidog gan Damien O’Brien,
Prif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; Jeff Andrews, Cynghorydd
Polisi Arbenigol a Jane McMillan, Pennaeth Rheoli’r Rhaglen Cronfeydd
Strwythurol Ewropeaidd. 7.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu: - Gwybodaeth ychwanegol am berfformiad Banc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Gronfeydd Strwythurol yr UE (14.45-15.30) Tystion: Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid Damien O’Brien, Prif Weithredwr, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru Jeff Andrews,Cynorthwydd
Polisi Arbennigol Rob Halford, Pennaeth Cynllunio a Strategaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid. Cefnogwyd y Gweinidog gan Damien O’Brien,
Prif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; Jeff Andrews, Cynghorydd
Polisi Arbenigol a Rob Halford, Pennaeth Cynllunio a Strategaeth. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol: EBC(4)-08-14 (papur 7) – Gwybodaeth ychwanegol gan Masnach a Buddsoddi y DU EBC(4)-08-14 (papur 8) – Gwybodaeth ychwanegol gan Masnach a Buddsoddi y DU (Rhaglen Cymorth
Datblygu Gallu, Buddsoddi Uniongyrchol Tramor) EBC(4)-08-14 (papur 9) – Gwybodaeth ychwanegol gan Masnach a Buddsoddi y DU (Pwyntiau Data) Cofnodion y cyfarfod blaenorol. |