Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Policy: Siân Phipps 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

 

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC, Rhun ap Iorwerth AC a David Rees AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

 

2.

Ymchwiliad i Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau (sesiwn dystiolaeth) (9.40-10.20)

Tyst:

 

Network Rail:

·         Mark Langman, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Llwybrau Cymru

Dogfennau ategol:

EBC(4)-38-13(p1) - WBF93 - Network Rail

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Network Rail.

 

 

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: Yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth (10.30-12.30)

Tystion:

·         Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

·         James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

·         Rob Hunter, Cyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

Dogfennau ategol:

EBC(4)-38-13(p2) - Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog ynghylch craffu ar gyllideb 2014-15, Economi a Gwyddoniaeth

EBC(4)-38-13(p3) - Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog ynghylch craffu ar gyllideb 2014-15, Trafnidiaeth

EBC(4)-38-13(p4) – Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru: yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

 

2.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

 

Economi:

 

- Cynigodd y Gweinidog roi diweddariad bob chwe mis ar gynnydd yn erbyn ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu, a fydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am nifer y swyddi a gaiff eu creu, eu diogelu a’u cynorthwyo gan yr adran, a gwybodaeth am nifer y swyddi mewnfuddsoddi a gyflawnir gan yr adran mewn gwirionedd (yn hytrach na ffigurau ehangach adran Masnach a Buddsoddi Llywodraeth y DU, sy’n seiliedig ar gyhoeddiadau).

 

- Cynigodd y Gweinidog ddarparu nodyn ynghylch sut yr aeth ati i ystyried effeithiau’r polisi sectorau ar gydraddoldeb, yn enwedig o ran anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sectorau blaenoriaeth.

 

- Cynigodd y Gweinidog ystyried ymhellach y gwelliannau y gallai ei hadran eu gwneud o ran Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb, gan gynnwys nodyn ar ddull gweithredu’r adran mewn perthynas ag asesu effaith ei gweithredoedd ar gydraddoldeb a datblygu cynaliadwy.

 

Trafnidiaeth:

 

- Sut y mae dyraniadau cyfalaf ar gyfer teithio cynaliadwy yn berthnasol i’r broses o gyflwyno’r Bil Teithio Llesol.

 

- Pan nodwyd y byddai’r arian ar gyfer trafnidiaeth gymunedol yn dyblu i bob pwrpas, nodi’n glir a yw hynny’n cynnwys yr arian a ddyrannwyd yn flaenorol i’r Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol.

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

EBC(4)-38-13(p5) - Llythyr gan Jocelyn Davies AC at Nick Ramsay ac Atodiad (e)

EBC(4)-38-13(p6) - Diweddaridau Chwe MisBlaenoriaethau ar gyfer y Rheilffordd, M4, Blaenoriaethau ac Ymrwymiadau Trafnidiaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol:

 

EBC(4)-38-13(p5) - Llythyr gan Jocelyn Davies AC at Nick Ramsay ac Atodiad (e)

 

EBC(4)-38-13(p6) - Diweddariadau Chwe Mis - Blaenoriaethau ar gyfer y Rheilffyrdd, yr M4, Blaenoriaethau ac Ymrwymiadau Trafnidiaeth