Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 268KB) Gweld fel HTML (194KB).

(09.30 - 09.45)

1.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: paratoi ar gyfer y sesiwn dystiolaeth lafar

Cofnodion:

1.1 The Committee discussed its approach to the scrutiny of the Draft Budget 2016-17.

(09.45)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Lynne Neagle. Dirprwyodd Jenny Rathbone ar ran Lynne Neagle.

 

(09.45 - 11.15)

3.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd

 

Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Gwybodaeth ategol:

Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch elfennau o Gyllideb Ddrafft Llwyodraeth Cymru 2016-17 sy’n ymwneud ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. [Saesneg yn unig].

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a gwaith y Dirprwy Gweinidog Iechyd ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i ddarparu'r canlynol:

·         amlinelliad o sut mae'r £200 miliwn ychwanegol i gefnogi cyflenwi craidd y GIG wedi cael ei ddosbarthu;

·         ymateb i'r ffigurau a amlinellwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Helpu Pobl Hŷn i Fyw'n Annibynnol: A yw Cynghorau'n gwneud digon?' (Hydref 2015) sy'n dangos - ar sail dadansoddiad Swyddfa Archwilio Cymru:

o   bod 16.8 y cant o ostyngiad i gyllidebau gwasanaethau ataliol, o £147.3 miliwn yn 2013-14 i £122.5 miliwn yn 2014-15, gyda saith o'r meysydd a adolygwyd ganddynt yn gweld eu cyllidebau yn gostwng.

·         dadansoddiad o'r gwariant cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2016-17, yn cynnwys:

o   manylion y dyraniadau cyfalaf dewisol i fyrddau iechyd lleol;

o   manylion am gostau’r cynlluniau yn 2016-17 sy'n cael eu hariannu yn barod;

o   manylion y dyraniadau cyfalaf newydd ar gyfer 2016-17.

 

3.3 Datganodd David Rees y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Mae ei wraig yn cael ei chyflogi fel radiograffydd uwch-arolygydd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

 

(11.15)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2015.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion.

 

4.2

Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(11.15)

5.

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 20 Ionawr 2016

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 11.30)

6.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid a'r Dirprwy Weinidog a chytunwyd i ysgrifennu atynt i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion a gododd yn ystod y sesiwn.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r llythyr hwn yn cael ei rhannu â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i lywio'r craffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17.

 

(11.30 - 11.45)

7.

Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y deilliannau

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Dirprwy Weinidog Iechyd a chytunwyd ar y llythyr hwnnw, yn amodol ar fân newidiadau.

 

(11.45 - 11.55)

8.

Etifeddiaeth Pwyllgor y Pedwerydd Cynulliad: trafod y dull gweithredu

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu a chytunodd arno.

 

(11.55 - 12.00)

9.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafodaeth am y drefn o ran ystyried trafodion Cyfnod 2

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) mewn egwyddor.