Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|||||||||||||
(09.15 - 10.00) |
Bil Cymru drafft: trafod effaith y Bil ar gymhwysedd deddfwriaethol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor effaith Bil Cymru drafft ar gymhwysedd
deddfwriaethol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
a Deddfwriaethol i gyfrannu at ei waith craffu cyffredinol ar Fil Cymru drafft,
ac i anfon copi o’r llythyr hwn at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Prif Weinidog
a’r Llywydd. |
|||||||||||||
(10.00 - 12.30) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod yr adroddiad drafft Noder: Bydd y Pwyllgor yn cael egwyl rhwng 10.55 a 11.10
ar gyfer y ddwy funud o ddistawrwydd i nodi Dydd y Cofio. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Cytunodd y Pwyllgor i drafod
yr adroddiad drafft eto yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2015. 3.2 Yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(ii), pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn, a gynigiwyd gan
Darren Millar AC gyda chefnogaeth Alun Davies AC, ac fe'i derbyniwyd gan y
Cadeirydd heb rybudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.44: Bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r dyddiad
cau ar gyfer adrodd ar gasgliadau ei drafodaeth Cyfnod 1 ar Fil Iechyd y
Cyhoedd (Cymru). Dyma ganlyniad y bleidlais:
|
|||||||||||||
(12.30) |
Papurau i’w nodi |
|||||||||||||
Cofnodion y cyfarfod ar 5 Tachwedd 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion. |
||||||||||||||
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol. |