Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 490KB) Gweld
fel HTML (373KB) |
||
(09.10 - 09.30) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor. Cofnodion: 1.1 Nododd yr Aelodau flaenraglen waith amlinellol y Pwyllgor ar gyfer
gweddill y pedwerydd Cynulliad, gan gytuno y byddent yn dod yn ôl at yr eitem
hon ar ddyddiad arall. 1.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol: ·
ei ddull gweithredu ar gyfer gwneud darn manwl o waith dilynol ar ei
ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru; ·
neilltuo amser yn ei raglen i ystyried Bil drafft Cymru, yn enwedig yr
effaith y gallai unrhyw fodel cadw pwerau ei chael ar y setliad datganoli mewn
perthynas â materion iechyd a gofal cymdeithasol; a ·
gohirio ei ystyriaeth o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2016-17 tan fis
Ionawr 2016. |
|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones a Darren Millar. |
|
(09.30 - 10.15) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 13 Dr Steven Macey, ASH Cymru Jamie Matthews, ASH Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. 3.2 Cytunodd y tystion i ymchwilio ynghylch a oes gwybodaeth ar gael mewn
perthynas â'r canlynol: ·
sut mae ysmygwyr yn defnyddio e-sigaréts i leihau eu defnydd o sigaréts
confensiynol; ·
cymhariaeth o'r niwed posibl i iechyd o'r tocsinau a charsinogenau a
ryddheir gan gynhyrchion pob dydd â'r rhai a ryddheir gan e-sigaréts; a ·
thystiolaeth o unrhyw welliannau i iechyd ysmygwyr sy'n defnyddio
e-sigaréts i leihau eu defnydd o sigaréts confensiynol. |
|
(10.15 - 11.05) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 14 Yr Athro Linda Bauld, Ymchwil Canser y DU Yr Athro John Britton, Canolfan y DU ar gyfer Astudiaethau Tybaco ac
Alcohol ac Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Resbiradol, Prifysgol Nottingham ac
Ysbyty Dinas Nottingham Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(11.20 - 12.10) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 15 Sesiwn dystiolaeth â’r Athro Peter Hajek,
Canolfan Astudio Tybaco ac Alcohol y DU, a chydawdur yr adroddiad ‘E-cigarettes:
an evidence update’ a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr
(adroddiad Saesneg yn unig) Cofnodion: 5.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan yr Aelodau. 5.2 Cytunodd y tyst i ddarparu i'r Pwyllgor gopi o'r astudiaeth y
cyfeiriodd ati ar sut y gall perthynas pobl ifanc ag e-sigaréts effeithio ar eu
perthynas â sigaréts confensiynol. |
|
(13.00 - 13.50) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 16 Dr Phil Banfield, Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) Dr Iain Kennedy, Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) Coleg Brenhinol y Meddygon (cynrychiolydd i'w gadarnhau) Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. |
|
(13.50 - 14.20) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 17 Yr Athro Alan Maryon-Davis, Cyfadran Iechyd Cyhoeddus y
DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(14.20) |
Papurau i’w nodi |
|
Cofnodion y cyfarfodydd ar 17 a 23 Medi 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 a 23 Medi
2015. |
||
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): gwybodaeth ychwanegol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas
Feddygol Prydain. |
||
(14.20) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac ar gyfer eitem 1 yn y cyfarfod ar 7 Hydref 2015 Cofnodion: 9.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.20 - 14.50) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 10.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |