Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 1

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Aelod sy'n gyfrifol

 

Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Chris Tudor-Smith, Uwch-swyddog Cyfrifol

Sue Bowker, Pennaeth Cangen Polisi Tybaco

Dewi Jones, Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Bill Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (PDF, 422KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 3MB)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor i:

·         amlinellu barn Llywodraeth Cymru ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i:

-        osod cyfyngiadau ar werthu cynhyrchion siwgr uchel ac alcohol; a

-        gwahardd gwerthu sigaréts confensiynol yng Nghymru.

·         rhoi manylion nifer y bobl yr oedd arnynt angen cymorth meddygol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf o ganlyniad i ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithdrefnau arbennig a nodir yn y Bil, gan gynnwys y gost o ddarparu'r driniaeth, wedi'i manylu yn ôl y 4 gweithdrefn;

·         rhoi manylion y dystiolaeth y cyfeiriodd ato yn dweud bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr e-sigaréts hefyd yn defnyddio sigaréts tybaco confensiynol; ac

·         amlinellu cyfradd llwyddiant defnyddio e-sigaréts fel dull o roi'r gorau i ysmygu o gymharu ag opsiynau eraill.

 

(11.00 - 11.05)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin.

 

3.2

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): gohebiaeth gan y Llywydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

3.3

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): gohebiaeth mewn perthynas â'r trafodion Cyfnod 2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gohebiaeth gan Kirsty Williams AC, yr Aelod sy'n gyfrifol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a ​​Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ddychwelyd at y pwnc yn ei drafodaeth nesaf ar raglen waith y Pwyllgor.

 

3.4

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: gwybodaeth ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol gan RNIB Cymru

Gwybodaeth ychwanegol gan Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwybodaeth ychwanegol gan Cynghrair Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru, Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Cynghrair Henoed Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 

3.5

P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi: gohebiaeth gan y Prif Swyddog Meddygol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chroesawodd y cynnydd a wnaed hyd yn hyn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Swyddog Meddygol i:

·         ofyn i gael gwybod am unrhyw gynnydd pellach gyda'r ddogfen consensws clinigol sy'n cael ei datblygu gan y Grŵp Rheoli Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan a Rhwydwaith Mamolaeth Cymru Gyfan; a

·         cheisio gwybodaeth bellach am yr amserlenni ar gyfer y gwaith sy'n mynd rhagddo gan y Grŵp Mamolaeth a'r Rhwydwaith Newyddenedigol i ddatblygu llwybrau gofal i rieni a babanod, gan gynnwys darparu gofal lliniarol a phrofedigaeth.

 

(11.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2015

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.05 - 11.15)

5.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.15 - 11.35)

6.

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: ystyried y llythyr drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chytunwyd ar y llythyr hwnnw, yn amodol ar fân newidiadau.