Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan John Griffiths. Dirprwyodd Jenny Rathbone.

1.2 Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

 

(09.00 - 10.10)

2.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 14

Kirsty Williams AC, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Lisa Salkeld, y Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Philippa Watkins, y Gwasanaeth Ymchwil, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 

 

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

 

Memorandwm Esboniadol

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd Kirsty Williams, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, i gwestiynau gan Aelodau.

 

(10.15 - 11.45)

3.

Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: gwaith craffu cyffredinol a chyllidol.

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd

 

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i gwestiynau gan Aelodau.

3.2 Cytunodd y Gweinidog:

·         i ddarparu gwybodaeth ystadegol gefndir yn ymwneud â nifer yr unigolion yng Nghymru sydd â salwch cronig a'r nifer sy'n cael triniaethau; 

·         i roi gwybod i'r Pwyllgor pan fydd yr adroddiad cenedlaethol 'Ymddiried Mewn Gofal', ynghylch hapwiriadau o wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru, yn cael ei gyhoeddi;

·         i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu manylion am ddyraniadau'r rhaglen gyfalaf sydd wedi'u nodi yng nghynllun tair blynedd drafft Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gyfeirio'n benodol at unrhyw gynlluniau i ddatblygu adran achosion brys Ysbyty Gwynedd; ac

·         i adolygu canllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â newid gwasanaethau byrddau iechyd lleol er mwyn sicrhau eu bod yn darparu'n ddigonol ar gyfer ymgysylltu â staff yr effeithir arnynt, o bosibl.

 

(11.45 - 12.25)

4.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 15

Melanie Minty, Fforwm Gofal Cymru

Anne Thomas, Linc Cymru ac yn cynrychioli Fforwm Gofal Cymru

Michele Millard, Spire Cardiff Hospital ac yn cynrychioli Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru

Simon Rogers, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

(12.25)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 6, 7 a 12 o'r cyfarfod, ac o eitem 1 o'r cyfarfod ar 25 Mawrth 2015.

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.25 - 12.30)

6.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ynghylch a fydd Fframwaith Llywodraethu'r Offeryn Aciwtedd (pan gaiff ei ddilysu) yn cynnwys cymarebau staffio sefydlog sy'n berthnasol i'r holl wardiau cleifion mewnol i oedolion, boed yn wardiau meddygol neu lawfeddygol.

 

(12.30 - 12.35)

7.

Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chanllawiau ar lefelau diogel o ran defnyddio meddygon locwm.

 

(13.30 - 14.10)

8.

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 7

Sue Goodman, y Wallich

Antonia Watson, y Wallich

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

(14.15 - 14.55)

9.

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 8

Stephen Coole, UCM Cymru

Lucy-Ann Henry, UCM Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.2 Cytunodd y tystion i ddarparu i'r Pwyllgor:

  • copi o strategaeth Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ynghylch digwyddiadau hel tafarnau sydd wedi'u trefnu; a
  • chopi o ganfyddiadau adroddiad interim yr Undeb.

 

(14.55 - 15.45)

10.

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 9

Arolygydd Nick McLain, Heddlu Gwent

Paul Roberts, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi

Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jon Stratford, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.2 Cytunodd y tystion i ddarparu i'r Pwyllgor:

  • ffigurau ar nifer yr arestiadau a/neu droseddau lle'r oedd alcohol yn ffactor cyfrannol; a
  • ffigurau ar y galw o ran galwadau a digwyddiadau mewn wythnos benodol.

 

(15.45)

11.

Papurau i’w nodi

11.1

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1a Cytunodd y Pwyllgor i ddiwygio cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth i gynnwys manylion am y wybodaeth ychwanegol y cytunodd yr Aelodau i ofyn amdani gan fyrddau iechyd lleol a Chymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru ynghylch y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

 

11.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth: gohebiaeth gan y Llywydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd rôl y Cynulliad o ran craffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

11.3

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(15.45 - 16.00)

12.

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

12.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.