Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.15-10.00)

1.

Ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i'r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni Canser Llywodraeth Cymru a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau. Cytunodd hefyd ar y dull a gaiff ei ddefnyddio i lansio'r adroddiad.

 

(10.00)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rebecca Evans, Leighton Andrews, Darren Millar, Janet Finch-Saunders a Lindsay Whittle. Roedd Alun Davies, John Griffiths, Mohammad Asghar, Andrew RT Davies (bore yn unig) a Paul Davies AC (prynhawn yn unig) yn dirprwyo ar eu rhan. 

 

(10.00)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y canlynol:

·         cofnodion cyfarfod 16 Gorffennaf; a

·         gohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog ynghylch: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru; yr Adolygiad o Fuddsoddiad mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol; Cynllun Cyflawni Canser Llywodraeth Cymru; a'r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Strôc.

 

(10.00 – 10.45)

4.

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 17

Dr Anna Kuczynska, Cyfarwyddwr Ardal Meddygon Teulu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Charlotte Moar, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Anthony Tracey, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwybodeg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Anthony Tracey.

4.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

(10.50 – 11.35)

5.

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 18

Dr Mark Vaughan, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Dr Nazia Hussain, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Peter Horvath-Howard, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru

Dr Charles Allanby, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

(11.35 – 12.20)

6.

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 19

Andrew Bell, Yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol

Sue Evans, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

David Williams, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Williams.

6.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

6.3 Cytunodd Sue Evans i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ynghylch cryfderau a gwendidau'r ymgyrch '3 miliwn o fywydau' yn Lloegr, sef yr ymgyrch y cyfeirir ato yng nghyflwyniad ysgrifenedig Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i'r Pwyllgor. 

 

(12.20)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 8, 10 a 11

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.20 - 12.30)

8.

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am wybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu am faint o gyllid refeniw sydd ei angen, er enghraifft ar gyfer talu costau hyfforddiant, yn ogystal â gwariant cyfalaf, wrth gyflwyno technolegau newydd.

 

(13.30 - 15.00)

9.

Sesiwn graffu gyffredinol a chyllidol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd

 

Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Weinidog Iechyd.

9.2 Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau gan Aelodau.

9.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynllun recriwtio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer y 100 o barafeddygon ychwanegol a ariannwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

 

(15.00 - 15.20)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd, a chytunodd arno. 

 

(15.20 - 15.30)

11.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): trafod y deithlen ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu

Cofnodion:

11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar deithlen ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").