Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams ac Alun Davies.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Meddygol

Dr. Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Dr Grant Duncan, Pennaeth yr Is-Adran Polisi Gofal Iechyd

Dr Chris Jones, Pennaeth yr Is-adran Ansawdd Gofal Iechyd

 

Dogfennau ategol

Prif Swyddog Meddygol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2013-14: Iachach, Hapusach, Tecach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Prif Swyddog Meddygol yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Prif Swyddog Meddygol i roi rhyw syniad inni pryd y disgwylir i’r crynodeb blynyddol o adolygiadau o nodiadau achos marwolaethau gael ei gyhoeddi.

2.3 Nododd y Pwyllgor y byddai’n croesawu gwybodaeth bellach gan y Prif Swyddog Meddygol am:

  • pryd y bydd yr adolygiad o ad-drefnu gwasanaethau bwrdd iechyd yn cael ei gyhoeddi; ac
  • y ‘Cynllun Gofal Sylfaenol’ arfaethedig, i gynnwys manylion am ei gwmpas, cylch gorchwyl ac amserlen.

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2015-16.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 6 Tachwedd 2014

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30 - 11.00)

5.

Ymchwiliad dilynol i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd: Trafod llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod a derbyniodd y llythyr drafft, yn amodol ar fân newidiadau, ar gyfer ei ymchwiliad dilynol ar gyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd.

 

(11.00 - 11.30)

6.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod a derbyniodd y llythyr drafft, yn amodol ar fân newidiadau, ar gyfer ei ymchwiliad dilynol ar gyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd.