Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd  / Deddfwriaeth: Fay Buckle

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vaughan Gething a Kirsty Williams. Roedd Jenny Rathbone ac Aled Roberts yn dirprwyo.

(13:15 - 14:00)

2.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 3

Ffederasiwn Busnesau Bach

Iestyn Davies – Pennaeth Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

Mike Jones, Aelod o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

Dean Bolton, Aelod o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

HSC(4)-22-12(p1)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y Ffederasiwn Busnesau Bach.

 

2.2 Cytunodd y ffederasiwn i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion penodol am niferoedd a busnesau sy’n gwneud yn dda a ddim cystal gyda hylendid bwyd o’r grŵp ffocws o aelodau’r ffederasiwn a gynorthwyodd â’r dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.

(14:00 - 15:00)

3.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 3

Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

Julie Barratt – Cyfarwyddwr Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (Cymru)

HSC(4)-22-12(p2)

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Marion Lyons – Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

HSC(4)-22-12(p3)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

(15:00 - 15:30)

4.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Nododd Aelodau faterion allweddol a godwyd o’r dystiolaeth a gafwyd wrth graffu ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).

Trawsgrifiad