Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd  / Deddfwriaeth: Fay Buckle

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Roedd Aled Roberts yn dirprwyo ar ei rhan.

(10.00 - 10.05)

2.

Ystyried cynnig a hysbyswyd i'r Pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.44

 

Elin Jones AC (Ceredigion)

 

Cynnig bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

 

Yn neilltuo amser yn ystod ei gyfarfod nesaf, ar 18 Gorffennaf 2012, i graffu ar waith y Gweinidog Iechyd, ei swyddogion ac, os ar gael, yr Athro Marcus Longley, a hynny o ran yr ohebiaeth rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Longley a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

 

Cofnodion:

2.1 Ni chafwyd gwrthwynebiadau i’r cynnig, felly cytunwyd ar y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

(10:05 - 10:15)

3.

Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol - Ystyriaeth o'r cylch gorchwyl

HSC(4)-21-12 papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol, ac y byddai’n cyhoeddi ymgynghoriad dros doriad yr haf.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar ei fwriad i gynnal ymchwiliad i werthusiad o dechnegol feddygol ac ymgynghori ar gwmpas yr ymchwiliad dros doriad yr haf.

(10:15 - 11:15)

4.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 1

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

Steve Wearne – Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

HSC(4)-21-12(p2)

 

Llais Defnyddwyr Cymru

Liz Withers – Pennaeth Polisi, Llais Defnyddwyr Cymru

HSC(4)-21-12(p3)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Llais Defnyddwyr Cymru.

 

4.2 Cytunodd Steve Wearne (ASB) i anfon copi o’r astudiaeth ansoddol i’r Pwyllgor ar waith pellach a gomisiynwyd yn dilyn astudiaeth defnyddwyr Llais Defnyddwyr Cymru pan gaiff ei gyhoeddi ddiwedd mis Gorffennaf.

 

(11:15 - 12:15)

5.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 2

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd

 

Simon Wilkinson – Swyddog Polisi - Gwasanaethau Rheoliadol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Graham Perry – Cyngor Sir Fynwy / Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd

HSC(4)-21-12(p4)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru.

 

(12:15)

6.

Papurau i'w nodi

HSC(4)-21-12(p5) – Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) dyddiedig 31 Mai 2012

 

HSC(4)-21-12(p6) - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) dyddiedig 18 Mehefin 2012

 

HSC(4)-21-12(p7) - Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) dyddiedig 21 Mehefin 2012

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nodwyd y papurau.

Trawsgrifiad