Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd  / Deddfwriaeth: Fay Buckle

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Nid oedd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.

(08:30 - 10:00)

2.

Ystyried gohebiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Marcus Longley

HSC(4)-23-12 papur 1a : Gwybodaeth a gyhoeddwyd ar log datgelu Llywodraeth Cymru

 

HSC(4)-23-12 papur 1b : Y Trefniant Gorau ar gyfer Gwasanaethau Ysbytai Cymru: Adolygiad o’r Dystiolaeth (ysgrifennwyd gan yr Athro Longley)

 

HSC(4)-23-12 papur 1c : Gwybodaeth gan Gonffederasiwn GIG Cymru

 

08:30 – 09:15 – sesiwn 1

Yr Athro Marcus Longley

 

09:15 – 10:00 – sesiwn 2

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru a Prif Weithredwr, GIG Cymru

Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru a Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Athro Marcus Longley ynghylch yr ohebiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru ac yntau.

 

2.2 Bu’r Pwyllgor yn holi Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, David Sissling a Dr Chris Jones ynghylch yr ohebiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Marcus Longley.

 

2.3 Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y Pwyllgor rhwng 9.32 a 10.05.

 

(10:00 - 10:30)

3.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 4

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Christopher Brereton - Pennaeth Deddfwriaeth Iechyd y Cyhoedd yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru

Christopher Humphreys - Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

3.1 Oherwydd y problemau technegol yn gynharach a’r cyfyngiadau amser, cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cadeirydd ysgrifennu ati gyda'r cwestiynau y byddai’r Aelodau wedi eu gofyn a bydd yn ymateb i’r Pwyllgor yn ysgrifenedig.

(10:30 - 11:30)

4.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 4

Cymdeithas y Siopau Cyfleus

Shane Brennan - Cyfarwyddwr Cysylltiadau Cyhoeddus, Cymdeithas y Siopau Cyfleus

HSC(4)-23-12 papur 2

 

Cymdeithas Cwrw a Thafardnai Prydain

Brigid Simmonds – Prif Weithredwr, Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain

HSC(4)-23-12 papur 3

 

Cymdeithas Lletygarwch Prydain

John Dyson – Cynghorydd Bwyd a Materion Technegol, Cymdeithas Lletygarwch Prydain

HSC(4)-23-12 papur 4

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas y Siopau Cyfleus, Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain a Chymdeithas Lletygarwch Prydain.

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Mehefin a 4 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Mehefin a 4 Gorffennaf.

 

5a

Yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn: nodiadau o'r cyfarfodydd o'r grwpiau cyfeirio a gynhaliwyd ar 24 Mai a 12 Mehefin

Nodyn o’r cyfarfod o’r grŵp cyfeirio a gynhaliwyd ar 24 Mai

HSC(4)-23-12 papur 5

 

Nodyn o’r cyfarfod o’r grŵp cyfeirio a gynhaliwyd ar 12 Mehefin

HSC(4)-23-12 papur 6

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5.3 Cofnododd y Cadeirydd ddiolch y Pwyllgor am y gwaith, a’r cyfraniad gwerthfawr, a wnaeth aelodau’r Grŵp Cyfeirio, a sefydlwyd i gynorthwyo’r Pwyllgor yn ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn.

 

(11:30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

(11:30 - 12:15)

7.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): y prif faterion

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur materion allweddol a chytunodd arnynt a gwnaeth rhai awgrymiadau ar gyfer yr adroddiad.

(12:15 - 13:00)

8.

Yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn: y prif faterion

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol ar gyfer yr adroddiad ar yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn a chytunodd arnynt.