Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lindsay Whittle a Kirsty Williams.  Roedd William Powell yn dirprwyo ar ran Kirsty Williams.

 

(09.00 - 09.30)

2.

Gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-16-12 papur 1

          Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Owen Crawley, y Prif Ymgynghorydd Gwyddonol

Alison Strode, Cynghorydd Therapi Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 

(09.30 - 11.50)

3.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Tystiolaeth gan reoleiddwyr ac archwilwyr

09.30 – 10.45: Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

 

HSC(4)-16-12 papur 2 – Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

HSC(4)-16-12 papur 3 – Papur diweddaru gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Imelda Richardson, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

David Francis, Prif Arolygydd Cynorthwyol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Kevin Barker, Arolygydd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Peter Higson, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Mandy Collins, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr, Archwilio a Rheoleiddio, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

 

10.45 – 10.50: Egwyl

 

10.50– 11.50: Cyngor Gofal Cymru

 

HSC(4)-16-12 papur 4

Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr

Gerry Evans, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Safonau Proffesiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am ofal preswyl i bobl hŷn.

 

3.2 Cytunodd Ms Huws Williams a Mr Evans i ddarparu gwybodaeth am yr amserlen angenrheidiol ar gyfer uwchsgilio’r gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn gallu ymateb i breswylwyr sydd ag ystod ehangach o anghenion, gan gynnwys y rhai sydd â dementia, ac i ddarparu copi o’r dystiolaeth a ddarparwyd gan Gyngor Gofal Cymru i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar brentisiaethau.

 

3.3 Cytunodd Mr Evans i ddarparu copi o’r prosiect ymchwil, ‘Care at home’.

 

(11.50 - 12.15)

4.

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - dull o graffu

HSC(4)-16-12 papur 5

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull o graffu ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn amodol ar gynnwys rhai ymgyngoreion ychwanegol.

 

4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn am gopi cynnar o’r rheoliadau drafft a ddarparwyd ar eu cyfer gan y Bil.

 

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai

          HSC(4)-14-12 cofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai.

 

Trawsgrifiad