Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.15 - 09.30)

1.

Blaenraglen waith y Pwyllgor.

Cofnodion:

1.1 Cytunodd y Pwyllgor i graffu ar y Bil Cymru drafft , yn enwedig ar yr effaith y gall y model cadw pwerau arfaethedig ei chael ar y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol,  yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd 2015.

1.2 Er mwyn caniatáu amser i anghenion busnes eraill, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i aildrefnu trafodion Cyfnod 2 ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) ar gyfer dydd Mercher, 25 Tachwedd. Mae hyn yn amodol ar fod y Cynulliad yn cytuno ar y penderfyniad ariannol, sydd wedi’i drefnu i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Tachwedd.

 

(09.30 - 10.00)

2.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod y materion allweddol wrth baratoi ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

2.1 Trafododd yr Aelodau y materion allweddol wrth baratoi ar gyfer y sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog.

 

(10.00)

3.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

3.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(10.00 - 11.30)

4.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 18

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dr. Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Chris Tudor-Smith, Uwch-swyddog Cyfrifol

Sue Bowker, Pennaeth Cangen Polisi Tybaco

Dewi Jones, Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), fel y'i cyflwynwyd (PDF, 422KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 3MB)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Datganodd Lindsay Whittle y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Mae’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

4.2 Bu’r Gweinidog yn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau.

4.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

·         nodyn i’r Pwyllgor i egluro a fyddai tatŵio, fel y’i diffinnir yn y Bil, yn cynnwys triniaethau tebyg, fel ‘tashing’;

·         nodyn ar sut y mae’n bwriadu diwygio Rhan 4 o’r Bil i ymestyn y darpariaethau o fewn y rhan hon i gynnwys tyllu’r tafod; a

·         chopi o’r astudiaeth, y cyfeiriodd ati, am y gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghaliffornia ynghylch e-sigaréts.

 

(11.30)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion.

 

5.2

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): gwybodaeth ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol gan Chymdeithas Fasnach y Diwydiant Sigaréts Trydanol

Gwybodaeth ychwanegol gan Chyfadran Iechyd Cyhoeddus y DU

Gwybodaeth ychwanegol gan Chymdeithas y DU ar gyfer Crohn a Cholitis

Gwybodaeth ychwanegol gan Chymdeithas Feddygol Prydain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 

5.3

Adroddiad Etifeddiaeth Pwyllgor Busnes y Pedwerydd Cynulliad: gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(11.30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r cyfarfodydd ar 5 Tachwedd ac 11 Tachwedd 2015.

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

6.2 Cynigiodd y Cadeirydd hefyd i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfodydd ar 5 Tachwedd ac 11 Tachwedd 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi). Cytunwyd ar hyn.

 

(11.30 - 12.00)

7.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod y dystiolaeth a’r materion allweddol

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod:

·         y dystiolaeth a ddaeth i law; a’r

·      materion allweddol sydd wedi codi yn ystod ei gyfnod yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil.