Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.05 - 09.15)

1.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafodaeth am drefn ystyried trafodion Cyfnod 2

Sylwer: Bydd trafodion Cyfnod 2 ar y Bil hwn ond yn mynd ymlaen os cytunir ar yr Egwyddorion Cyffredinol ar 3 Mehefin 2015.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2 y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) mewn egwyddor.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle.

 

(09.15 - 10.00)

3.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 13

Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Hywel Dafydd, Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

3.2 Cytunodd y Comisiynydd Plant i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         canfyddiadau adolygiad y Comisiynydd o'r broses o gomisiynu gwasanaethau eiriolaeth;

·         ei barn ar adran 57 o'r Bil ar swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya.

 

(10.00 - 10.45)

4.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 14

Samantha Clutton, Barnardo’s Cymru

Cecile Gwilym, NSPCC Cymru

Catriona Williams, Plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

4.2 Cytunodd Catriona Williams a Cecile Gwilym i roi eu barn i'r Pwyllgor ynghylch a yw'r Bil yn rhoi diffiniad digon clir o weithiwr gofal cymdeithasol.

4.3 Cytunodd Samantha Clutton a Cecile Gwilym i roi eu barn i'r Pwyllgor ar sut y gellid atgyfnerthu'r Bil o ran comisiynu gwasanethau gan awdurdodau lleol.

 

(11.00 - 11.30)

5.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 15

Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru  

Nia Roberts, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

(11.30 - 12.00)

6.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 16

Lin Slater, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Lynda Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Cofnodion:

6.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau'r Aelodau.

 

(12.00)

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru): gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(12.00)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.15)

9.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at sefydliadau gofalwyr maeth i ofyn eu barn ar ymestyn y gofyniad i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ofalwyr maeth.

 

(12.15 - 12.25)

10.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): paratoi ar gyfer gwaith craffu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Nododd y Pwyllgor benderfyniad y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol graffu arno yng Nghyfnod 1 a Chyfnod 2 a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ddweud bod ganddo bryderon sylweddol ynghylch yr amserlen arfaethedig a'r pwysau y byddai hynny'n eu rhoi ar ei lwyth gwaith.

10.2 Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Pwyllgor Busnes ymestyn y terfyn amser ar gyfer craffu ar y Bil yng Nghyfnod 1 o ddwy wythnos er mwyn caniatau ar gyfer ymrwymiadau gwaith eraill.