Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd C - Tŷ Hywel

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.15 - 10.00)

2.

Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig. Cytunwyd yr adroddiad yn amodol ar fân newidiadau.

 

(10.00 - 10.30)

3.

Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2014

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2014 a gofynnodd am bapurau cwmpasu ar ddetholiad o bynciau i'w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r sesiwn dystiolaeth lafar ar ei ymchwiliad dilynol i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol tan dymor yr hydref; ni chytunwyd ar ddyddiad eto.

 

(10.45 - 12.15)

4.

Rhaglen Datblygiad Proffesiynol: Gwaith Craffu Ariannol

Cofnodion:

4.1  Fe wnaeth yr Aelodau gymryd rhan mewn sesiwn ar graffu ariannol yn ystod y flwyddyn ac ar ddiwedd y flwyddyn, fel rhan o'r Rhaglen Datblygiad Proffesiynol.

 

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.