Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan
Leighton Andrews AC, Lynne Neagle AC, William Graham AC a Darren Millar AC. |
||
(09:30 - 10:10) |
Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 1 Fforwm Gordewdra Cenedlaethol Cymru Dr
Nadim Haboubi, Cadeirydd a Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Oedolion a
Gastroenteroleg Cymdeithas Cleifion Llawfeddygaeth Gordewdra Prydain Chrissie
Palmer, Ymddiriedolwr Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Bu’r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 2.2 Cytunodd Dr Haboubi i roi
rhagor o fanylion am nifer y cleifion y mae wedi'u hatgyfeirio at lawdriniaeth
fariatrig, a nifer y cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth o ganlyniad i'r
atgyfeiriadau hynny. |
|
(10:10 - 10:50) |
Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 2 Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endoscopi Cymru Dr
Dev Datta, Ymgynghorydd mewn Biocemeg a Meddygaeth Fetabolig Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Colin
Ferguson, Cyfarwyddwr Materion Proffesiynol Cymdeithas Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Prydain Jonathan
Barry, Llawfeddyg Ymgynghorol mewn Bariatreg Laparosgopig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1. Bu’r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 3.2 Cytunodd Mr Barry i
ddarparu rhagor o wybodaeth am yr 11 o restrau llawn o lawdriniaethau y nododd
iddynt fynd ar goll yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gynnwys rhagor o
wybodaeth am beth y mae "11 o restrau llawn o lawdriniaethau" yn ei
olygu o ran nifer y cleifion ac fel cyfran o faich gwaith cyffredinol Sefydliad
Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru. |
|
(11:00 - 11:40) |
Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 3 Byrddau Iechyd Lleol Jan
Smith, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapiau a Gwyddorau Iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol
Aneurin Bevan Alison
Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapiau, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan Scott Caplin, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1. Bu’r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 4.2 Cytunodd Dr Jane Layzell
i egluro a oes gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen "Ysgolion Iach"
wedi'i gynnal. |
|
(11:40 - 12:20) |
Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 4 Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru Dr Khesh Sidhu, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ac
Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Suzanne Wood, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus, Iechyd
Cyhoeddus Cymru (o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1. Bu’r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 5.2 Cytunodd Dr Sidhu i roi
eglurhad o'r ffigurau NICE a nododd yn ystod y sesiwn mewn perthynas â: - nifer yr unigolion yng
Nghymru sy'n gymwys i gael eu hatgyfeirio at wasanaethau bariatrig; - nifer yr unigolion sy'n
gymwys i gael llawdriniaeth fariatrig; - nifer yr unigolion sy'n
debygol o dderbyn llawdriniaeth. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Nododd y Pwyllgor
gofnodion ei gyfarfod blaenorol. |