Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 480KB) Gweld fel HTML (426KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Jocelyn Davies AC a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd Bethan Jenkins AC ar ran Jocelyn Davies.

 

 

(09.00 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 3 - Ymddiriedolaeth y BBC

Rona Fairhead, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth y BBC

Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth y BBC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Rona Fairhead, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth y BBC

·         Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth y BBC

 

2.2 Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu i’r Pwyllgor adroddiadau monitro yr Ymddiriedolaeth, neu grynodeb o’r adroddiadau, sy’n asesu’r cynnydd a wnaed mewn perthynas ag Adroddiad King ym mis Mehefin 2008.

 

 

2.1

Ymatebion i’r Ymgynghoriad: Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC

Dogfennau ategol:

(10.45 - 11.45)

3.

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 4 - TAC a PACT

Iestyn Garlick, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)

Gareth Williams, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)

John McVay, Cynghrair y Cynhyrchwyr Sinema a Theledu (PACT)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Iestyn Garlick, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)

·         Gareth Williams, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)

·         John McVay, Producers Alliance for Cinema and Television (PACT)

 

3.2 Cytunodd TAC i geisio darparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am gyllid BBC Alba, ac a fydd S4C a BBC Alba yn cael eu trin yn debyg yn y dyfodol.

 

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

 

(11.45 - 12.00)

6.

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC - trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod sesiwn dystiolaeth 3 a sesiwn dystiolaeth 4.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3.

 

(12.00 - 12.30)

7.

Trafod Bil Cymru drafft

Cofnodion:

7.1  Trafododd y Pwyllgor ei drafodaeth ar Fil Cymru drafft a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

(12.30-12.45)

8.

Trafod y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ar ei newydd wedd.