Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 395KB) Gweld fel HTML (444KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC a Jocelyn Davies AC. Dirprwyodd John Griffiths a Bethan Jenkins eu rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

 

(09.00 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 5 - Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

·         Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

 

Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:

·         Barn Llywodraeth Cymru ar p’un a yw’r BBC wedi ymateb yn ddigonol i argymhellion Adroddiad King;

·         manylion am waith Panel Cynghori ar Ddarlledu Llywodraeth Cymru, a’r allbynnau ohono;

·         yr ohebiaeth sy’n ymwneud â galwad Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu cyllideb S4C;

·         y cyllid ar gyfer BBC Alba a’r gymhariaeth â’r cyllid ar gyfer S4C;

·         ffigurau sy’n ymwneud â’r cwmnïau cynhyrchu a chadwyni cyflenwi sydd wedi elwa o symud cynhyrchu allan o Lundain i Gymru;

·         y sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud o ran y newidiadau arfaethedig i’r Telerau Masnach rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a chynhyrchwyr annibynnol;

yr ohebiaeth yn ymwneud â phryderon Llywodraeth Cymru ynghylch y newidiadau i ffi’r drwydded ym mis Gorffennaf 2015

 

(10.45 - 11.45)

3.

Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 6

Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru

Dr John Geraint, Green Bay Media

Angela Graham, Sefydliad Materion Cymreig

Yr Athro Tom O'Malley, Prifysgol Aberystwyth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru

·         Dr John Geraint, Green Bay Media

·         Angela Graham, Sefydliad Materion Cymreig

·         Yr Athro Tom O’Malley, Prifysgol Aberystwyth

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

 

(11.45 - 11.55)

6.

Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiynau 5 a 6

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3.

 

(11.55 - 12.00)

7.

Y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): trefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2, sef: Adran 3, Atodlen 1, adrannau 4 i 22, adran 2, adran 24, Atodlen 2, adrannau 25 i 32, adran 23, adrannau 33 i 41, adran 1, a’r Teitl Hir.

 

(12.00 - 12.30)

8.

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes - Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes ar Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad.