Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC a Jocelyn Davies AC.   Roedd John Griffiths AC yn dirprwyo ar ran Gwenda Thomas AC, a Bethan Jenkins AC yn dirprwyo ar ran Jocelyn Davies AC, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. 

 

 

 

(9.15 - 10.15)

2.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 4 – Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Christopher Catling, Prif Weithredwr

Jonathan Hudson, Comisiynydd

David Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Christopher Catling, Prif Weithredwr

·         Jonathan Hudson, Comisiynydd

·         David Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus

 

2.2 Cytunodd y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am y gwaith mae’n ei wneud i ganfod capeli ac eglwysi sydd mewn perygl o fod yn ddiangen, yn y gobaith y gall weithio gyda chymdeithasau capeli i ddod o hyd i ddefnydd arall addas ar eu cyfer.

 

(10.30 - 11.30)

3.

Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 5 - Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cymru

Dr Emma Plunkett-Dillon, Is-gadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 The Committee received evidence from:

 

 

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

 

(11.30 - 11.45)

6.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): trafod y dystiolaeth a gafwyd yn sesiynau 4 a 5

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

(11.45 - 11.55)

7.

Ystyried blaenraglen waith

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.

 

(11.55 - 12.55)

8.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafod yr adroddiad terfynol

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad, a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.