Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: 1.1.
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2.
Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC; dirprwyodd John Griffiths AC
ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. 1.3.
Gwnaeth
Alun Davies AC a Janet Finch-Saunders AC ddatganiadau o fuddiant fel
landlordiaid yn y sector rhentu preifat. Gwnaeth Rhodri Glyn Thomas AC
ddatganiad o fuddiant fel tenant yn y sector rhentu preifat. |
||
(09.15 - 10.30) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 7 - Y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, Urdd y Landlordiaid Preswyl, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid, Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl Karen
Anthony, Y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Adrian
Thompson, Urdd y Landlordiaid Preswyl Lee Cecil,
Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Douglas
Haig, Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan: ·
Karen Anthony, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad ·
Adrian Thompson, Urdd y Landlordiaid Preswyl ·
Lee Cecil, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid ·
Douglas Haig, Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl 2.2
Cytunodd Mr Haig i roi gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynghylch: ·
barn Cymdeithas
y Landlordiaid Preswyl ar y materion gorfodi ehangach sy'n ymwneud â'r Bil
Rhentu Cartrefi. ·
codiadau
rhent a rheoli rhent, a chytunodd hefyd i rannu gyda'r Pwyllgor adroddiad
cysylltiedig gan yr Athro Michael Ball. 2.3
Cytunodd Mr Cecil i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ynghylch barn
Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid ar y materion gorfodi ehangach sy'n
ymwneud â'r Bil Rhentu Cartrefi. |
|
(10.45 - 11.45) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 8 - Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig David Cox,
Y Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl Tom Jones,
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
David Cox, Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl ·
Tom Jones, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 5 Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar
gynnig i wahardd y cyhoedd o weddill sesiwn y bore i ystyried eitemau 5 a 10. |
||
(11.45 - 12.00) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiynau 7 a 8 Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn
ystod sesiynau 7 ac 8. |
|
(13.00 - 14.00) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 9 - Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru Elle
McNeil, Cyngor ar Bopeth Cymru Jennie
Bibbings, Shelter Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan: ·
Elle
McNeil, Cyngor ar Bopeth Cymru ·
Jennie Bibbings, Shelter Cymru 6.2 Cytunodd Ms Bibbings i
edrych ar waith achos a rhoi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ynghylch
ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer troi
allan. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y
cynnig. |
||
(14.00 - 14.10) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiwn 9 Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn
ystod sesiwn 9. |
|
(14.15 - 14.35) |
Trafod yr ymgynghoriad ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau Cofnodion: 10.1 Nododd
y Pwyllgor ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar God Ymarfer ar y Sector
Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i geisio rhagor o wybodaeth am yr
amserlenni ar gyfer cwblhau'r Cod. |