Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mike Hedges AC a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

(9.15 - 10.15)

2.

Bil Llywodraeth Leol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 5: - Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Owen Watkin, Cadeirydd

Steve Halsall, Prif Weithredwr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Owen Watkin, Cadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.   

·         Steve Halsall, Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

 

 

(10.30 - 11.30)

3.

Bil Llywodraeth Leol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 6 - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

·         Alan Morris, Cyfarwyddwr, Arweinydd Sector Cyfiawnder Troseddol Llywodraeth Leol.

 

3.2 Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu'r canlynol ar gyfer y Pwyllgor:

 

  • Copi o'i lythyr at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â'r diffiniad o "brif swyddog" at ddiben adran 28 o'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru), a
  • Manylion pellach am unrhyw astudiaethau a gynhaliwyd yn dilyn ailstrwythuro blaenorol yn y sector cyhoeddus (naill ai yng Nghymru neu yn rhywle arall).

 

 

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfan o'r cyfarfod ar 18 Mawrth 2015 Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) digwyddiad i randdeiliaid

Cofnodion:

1.1               Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

 

(11.30 - 11.45)

5.

Bil Llywodraeth Leol (Cymru): trafod y dystiolaeth a gafwyd yn sesiynau 5 a 6

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.