Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, cytunodd y Pwyllgor ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod a gynhelir heddiw (digwyddiad rhanddeiliaid y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)).

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

 

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mike Hedges AC a Gwenda Thomas AC.  Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

(10.00 - 10.30)

2.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): ystyried penodi cynghorwr arbenigol

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor i benodi Dr David Smith o gwmni cyfreithiol Anthony Gold yn gynghorydd arbenigol i gynorthwyo’r broses o ystyried y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yng Nghyfnod 1.

 

(10.30 - 12.30)

3.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): digwyddiad rhanddeiliaid

Cofnodion:

3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad rhanddeiliaid a chafodd drafodaethau gyda thenantiaid ynghylch cynigion y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru).