Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC.  Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

(09.15 - 10.15)

2.

Bil Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3 - yr undebau

Unsain

Dominic Macaskill, Rheolwr Rhanbarthol, Pennaeth Llywodraeth Leol

 

GMB

Mike Payne, Swyddog Gwleidyddol Rhanbarthol

 

Uno’r Undeb

John Toner, Swyddog Rhanbarthol ar gyfer Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Dominic Macaskill, Unsain

·         Mike Payne, GMB

·         John Toner, Unite

 

 

(10.30 - 11.15)

3.

Bil Llywodraeth Leol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 4 - Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Richard Penn, Cadeirydd, Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Richard Penn, Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

 

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.15 - 11.30)

6.

Y Bil Llywodraeth Leol (Cymru): trafod y dystiolaeth a gafwyd yn sesiynau 3 a 4

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn sesiynau 3 a 4. 

 

(11.30 - 12.00)

7.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): ystyriaeth bellach o ddull craffu’r Pwyllgor

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i benodi cynghorydd arbenigol er mwyn helpu i graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) a chytunodd i ystyried rhestr o ymgeiswyr yn y cyfarfod nesaf.