Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:30-09:45)

1.

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.

 

(09:45-10:00)

2.

Trafod yr adroddiad drafft: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Adroddiad Blynyddol 2012/13

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft.

 

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas a Janet Finch-Saunders.

 

(10:00-12:00)

4.

Bil Tai (Cymru) – Cyfnod 1 – ystyried yr egwyddorion cyffredinol

Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Swyddogion Llywodraeth Cymru
Bil Tai (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

 

Cofnodion:

4.1 Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio.

 

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r hyn a ganlyn:

 

·       gwybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y cynllun cofrestru a thrwyddedu cyfredol ar gyfer y sector rhentu preifat yn yr Alban a’r cynllun arfaethedig yng Nghymru y darperir ar ei gyfer yn y Bil;

·       nodyn ar safonau diogelwch trydanol ar gyfer y sector rhentu preifat i’w cynnwys yn y Cod Ymarfer y darperir ar ei gyfer yn adran 28;

·       copi o’r adroddiad gan Brifysgol Caerdydd (a oedd yn darparu tystiolaeth y dylai’r cyfnod o amser yr ystyrir bod person o dan fygythiad o ddigartrefedd gael ei gynyddu i 56 diwrnod);

·       nodyn ar sut y byddai’r gost o orfodi’r cynllun cofrestru a thrwyddedu arfaethedig yn cael ei thalu, yn sgîl y dyfarniad gan y Llys Apêl ar achos Hemming ac eraill yn erbyn Cyngor Dinas San Steffan;

·       eglurder ar ystyr ‘hyglwyf’ yn adran 55(1)(j) mewn perthynas â phobl sydd wedi bwrw dedfryd o garchar;

·       eglurder ar pam nad yw’r categori ar gyfer angen blaenoriaethol yn adran 55(1)(c)(i) yn cyfeirio at salwch meddwl, o ystyried ei fod wedi’i gynnwys yn y categorïau sydd eisoes yn bodoli a nodir yn Neddf Tai 1996;

·       eglurder ar y gyfundrefn reoleiddio ac arolygu bresennol ar gyfer hostelau digartrefedd;

·       eglurder ar ystyr cyfreithiol ac/neu effaith y term ‘er enghraifft’ yn adran 55(1)(c)(i);

·       nodyn ar drefniadau dwyochrog rhwng awdurdodau lleol ar gyfer rhoi llety i bobl ddigartref; a

 

·       dadansoddiad fesul awdurdod lleol o’r terfyn benthyca sy’n ymwneud â thai i gynnwys benthyca sydd eisoes yn bodoli a’r ddyled newydd i ariannu’r cam o adael y cynllun cymhorthdal cyfrif refeniw tai.

4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth gyfreithiol am y diffiniad o fod yn hyglwyf.

 

 

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Papurau i’w nodi.