Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  / Legislation: Helen Finlayson

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates. Nid oedd unrhyw un yn dirprwyo ar ei ran.

(09.30 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - sesiwn dystiolaeth 14

CELG(4)-11-13 – Papur 1

Llywodraeth Cymru

 

Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Alyn Williams, Pennaeth Tîm Tai'r Sector Preifat

Huw McLean, Tîm Tai'r Sector Preifat

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:

 

-       Canllawiau Llywodraeth Cymru ar grantiau cyfleusterau i’r anabl;

-       Canllawiau ynglŷn â ph’un ai yw profion modd yn cael eu gweithredu’n wahanol rhwng Awdurdodau Lleol;

-       Y data a ddefnyddir wrth gyfrifo’r elfen tai yn y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol. 

(10.25 - 11.30)

3.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Tai ac Adfywio

CELG(4)-11-13 – Papur 2

 

Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio

John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar y Gweinidog Tai ac Adfywio a’i bortffolio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

 

-       Lle y bo’n briodol, y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Thrysorlys ei Mawrhydi ynglŷn â gadael System Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai;

-       Manylion cynllun i ddisodli’r Cynllun NewBuy Cymru arfaethedig;

-       Manylion penodol ar y Bil Tai ac yn fwy cyffredinol y wybodaeth ddiweddaraf am gydrannau deddfwriaethol eraill ym mhortffolio’r Pwyllgor. 

 

(11.30 - 11.35)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papurau.

4a

Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

CELG(4)-11-13 – Papur 3

 

Dogfennau ategol:

4b

Gohebiaeth yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth

CELG(4)-11-13 - Gohebiaeth breifat

CELG(4)-11-13 – Gohebiaeth breifat

Trawsgrifiad

Trawsgrifiad o’r Cyfarfod.