Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Polisi: Claire Morris  / Is-ddeddfau: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.00 - 9.15)

1.

Adroddiad blynyddol Estyn - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau y cytunir arnynt y tu allan i’r Pwyllgor.

 

(09:15)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09:15 - 10:15)

3.

Ymchwiliad i fabwysiadu

Cymdeithas Plant Dewi Sant

Gerry Cooney – Prif Weithredwr

Joan Price – Rheolwr Mabwysiadu

 

Barnardo’s Cymru

Yvonne Rodgers – Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru

Melanie Jones – Mabwysiadu a Maethu, Rheolwr Gweithrediadau.

Trish Booker - Mabwysiadu a Maethu, Rheolwr Gwasanaeth, Gogledd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion am yr ymchwiliad i fabwysiadu.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Barnardo’s Cymru i ddarparu nodyn ar gynllunio cydredol.

 

(10.30 - 11.15)

4.

Ymchwiliad i fabwysiadu

Dr. Mike Davies – Seicotherapydd Ymgynghorol Annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd y tyst. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst am yr ymchwiliad i fabwysiadu.

 

 

(11.15 - 12.00)

5.

Ymchwiliad i fabwysiadu

Conffederasiwn GIG Cymru

Allison Williams – Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Dr David Williams – Cyfarwyddwr Clinigol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion am yr ymchwiliad i fabwysiadu

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf  i ddarparu gwybodaeth bellach i’r pwyllgor am yr amrediad cyfannol o ofal ar gyfer plant sydd â phroblemau iechyd meddwl.

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ddarparu nodyn i’r pwyllgor ynghylch sut y mae anhwylder ymlyniad yn cyd-fynd â system haenog Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a nodyn am y gwahanol fathau o wasanaethau a ddarperir ledled Cymru, gan amlygu enghreifftiau o arfer gorau.

 

 

Trawsgrifiad