Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a John Griffiths. Nid oedd Aelodau’n dirprwyo ar eu rhan.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Gwaith dilynol ar yr Ymchwiliad i Wasanaethau Mabwysiadu yng Nghymru - sesiwn friffio gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

 

Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau - Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru

Phil Hodgson, Cadeirydd Annibynnol Grŵp Cynghori'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

 

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eu briffio gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru.

 

(10.30 - 11.00)

3.

Trafod Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid

CYPE(4)-30-15 – Papur preifat 1

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor lythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am adborth ar broses y gyllideb a chraffu ariannol ar ddeddfwriaeth. Cytunwyd i gyflwyno eu barn yn ysgrifenedig.