Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan.

(09.30 - 10.30)

2.

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

CYP(4)-28-13 – Papur 1 – Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd

 

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

Eleri Thomas, Prif Weithredwr  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Holodd yr Aelodau'r Comisiynydd Plant ynghylch ei Adroddiad Blynyddol. Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn ar y canlynol:

 

Costau gweinyddol a gweithdrefnau cyfrifyddu y swyddfa dros y ddwy flynedd ddiwethaf;

 

Manylion penodol am y broses Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant; a

 

Rhagor o fanylion am waith y Comisiynydd ar fynediad i blant a phobl ifanc anabl mewn addysg prif ffrwd, unedau cyfeirio disgyblion a gwyliau byr.

 

Cytunodd y Comisiynydd i roi papur briffio i'r Pwyllgor ar ddarparu gwasanaethau CAMHS.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiynydd gyda rhagor o gwestiynau.

(10.30 - 12.00)

4.

Bil Addysg (Cymru) - Cyfnod 1 - Trafod yr adroddiad drafft

CYP(4)-28-13 – Papur preifat 2

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur ar y materion allweddol. Bydd adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf.

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

5a

Papurau i’w nodi - Tudalen glawr

Dogfennau ategol:

5b

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Gwybodaeth bellach gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau

CYP(4)-28-13 – Papur i'w nodi 3

Dogfennau ategol:

5c

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Gwybodaeth bellach gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

CYP(4)-28-13 – Papur i'w nodi 4

Dogfennau ategol:

5d

Gwybodaeth bellach gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 26 Medi

CYP(4)-28-13 – Papur i'w nodi 5

Dogfennau ategol:

5e

Neges e-bost gan y Ddraig Ffynci ynghylch y sesiwn graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-2015

CYP(4)-28-13- Papur i’w nodi 6

Dogfennau ategol: