Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Claire Morris / Deddfwriaeth: Steve George
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns. Nid oedd dim dirprwyon yn bresennol. |
||
(09.30-10.15) |
Craffu ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a'r cynllun gweithredu Gwneud Pethau'n Iawn diwygiedig Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gomisiynydd Plant Cymru i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tyst. Cam i’w gymryd Cytunodd y Comisiynydd Plant i anfon ei bryderon ynghylch ‘Gwneud Pethau’n Iawn: y wybodaeth ddiweddaraf 2013’ at y Pwyllgor. |
|
(10.15-11.00) |
Craffu ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a'r cynllun gweithredu Gwneud Pethau'n Iawn diwygiedig Pat Dunmore, Swyddog Polisi Hawliau Plant, Achub y Plant a Chydgysylltydd y Grŵp Monitro CCUHP Dr Simon Hoffman, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe ac Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Pat Dunmore a Dr Simon Hoffman i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion. Cam i’w gymryd Cytunodd y tystion i anfon eu pryderon ynghylch ‘Gwneud Pethau’n Iawn: y wybodaeth ddiweddaraf 2013’ at y Pwyllgor. |
|
(11.15-12.15) |
Craffu ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a'r cynllun gweithredu Gwneud Pethau'n Iawn diwygiedig Huw Lewis AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a Martin Swain i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion. Camau i’w cymryd Cytunodd y Gweinidog i ddarparu: (i) enghreifftiau o ble mae Asesiadau o Effaith ar Hawliau Plant wedi cael effaith ar ddeddfwriaeth neu bolisi penodol neu wedi llywio trafodaethau’r Cabinet, sydd wedi arwain at newidiadau cadarnhaol; (ii) y wybodaeth ddiweddaraf am y mathau gwahanol o hyfforddiant a ddarperir ar y CCUHP a nifer y staff sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant hwnnw; a (iii) nodyn ar gyfraniad rhanddeiliaid mewn perthynas â ‘Gwneud Pethau’n Iawn: y wybodaeth ddiweddaraf 2013’. |
|
(12.15-12.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod er mwyn trafod y prif bwyntiau Cofnodion: 5.1 Cytunwyd ar y cynnig. |