Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Polisi: Claire Morris  / Legislation: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies.

(10.00 - 11.00)

2.

Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

 

Emma Smith, Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad

 

Chris Tweedale, Cyfarwyddwr y Grŵp Ysgolion a Phobl Ifanc

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a’u swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

 

·         Gwybodaeth am y mathau o dechnoleg sy’n cael eu defnyddio yn Ysgol y Bont ar Ynys Môn i gefnogi’r gwaith o adeiladu ysgol werdd arloesol;

 

·         Eglurhad ynghylch pa linell gyllideb sy’n ariannu’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer y radd Meistr;

 

·         Manylion am y prosiectau sy’n cael eu gweithredu drwy’r Grant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig, y grant ar gyfer addysg plant Sipsiwn a phlant Teithwyr a’r Grant Trechu Dadrithiad;

 

·         Gwybodaeth ynghylch a yw unrhyw awdurdodau lleol wedi penderfynu peidio â gwneud cais am y grant ar gyfer addysg plant Sipsiwn a phlant Teithwyr ac wedi tynnu gwasanaethau yn ôl o ganlyniad i hynny. 

 

(11.00 - 12.00)

3.

Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

 

Mark Osland, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a’u swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

 

·         Gwybodaeth ynghylch a oes unrhyw adnoddau ar gael drwy’r rhaglen Law yn Llaw at Iechyd Meddwl i ddatblygu rhaglenni datblygu sy’n briodol i wahanol oedrannau ar gyfer staff rheng flaen, a hynny mewn perthynas â chanfod a rheoli anhwylderau diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD);

 

·         Gwybodaeth ynghylch a yw unrhyw adnoddau ychwanegol wedi’u dyrannu ar gyfer gweithredu Cynllun Cenedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd y Geg, a hynny mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yn benodol.

 

 

 

(12.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod ar 18 Hydref

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

(12.00 - 12.30)

5.

Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.

 

Trawsgrifiad