Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Williams  Deputy Clerk: Ruth Hatton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC.

 

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(4)-22-14 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

CLA443 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffisiotherapyddion-ragnodwyr, Podiatryddion-ragnodwyr neu Giropodyddion-ragnodwyr Annibynnol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 27 Awst 2014; Fe'u gosodwyd ar: 29 Awst 2014; Yn dod i rym ar: 24 Medi 2014.

 

 

2.2

CLA445 - Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 3 Medi 2014; Fe'u gosodwyd ar: 5 Medi 2014; Yn dod i rym ar: 29 Medi 2014 ar wahân i'r hyn y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 1(1).

 

 

2.3

CLA447 – Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 5 Medi 2014; Fe'u gosodwyd ar: 5 Medi 2014; Yn dod i rym ar: 26 Medi 2014.

 

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

 

3.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

CLA442 - Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 20 Awst 2014; Fe'u gosodwyd ar: 22 Awst 2014; Yn dod i rym ar: 19 Medi 2014.

 

CLA(4)-22-14 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(4)-22-14 – Papur 3 – Rheoliadau

CLA(4)-22-14 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

 

 

 

Dogfennau ategol:

3.2

CLA444 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 28 Awst 2014; Fe'u gosodwyd ar: 29 Awst 2014; Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3) i (6).

 

CLA(4)-22-14 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(4)-22-14 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(4)-22-14 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau a bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad.

 

 

4.

Papur i’w nodi

4.1

Gohebiaeth ynghylch Adolygiad Comisiynydd Plant Cymru

CLA(4)-22-14 – Papur 5 – Llythyr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd i’w hystyried yn y sesiwn breifat.

 

5.

Tystiolaeth mewn cysylltiad â’r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)

(Amser a ddynodwyd: 14.15)

 

Bethan Jenkins AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru);

 

CLA(4)-22-14 – Papur 9 – Llythyr gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

CLA(4)-22-14 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(4)-22-14 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bethan Jenkins AC mewn cysylltiad â’r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru).

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat.

 

6.1

Adroddiad Drafft ar y Bil Addysg Uwch (Cymru)

CLA(4)-22-14 – Papur 10 – Adroddiad drafft

 

6.2

Blaenraglen waith

CLA(4)-22-14 – Papur 11 – Blaenraglen waith