Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Abigail Phillips
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09:30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
09:30-09:40 |
Deisebau newydd |
|
P-04-341 Gwastraff a llosgi Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor: I aros am ymateb gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy; I ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn i’r mater hwn gael ei drafod fel rhan o’r ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru; I ohirio’r trafodaethau ar y mater hwn nes daw’r cyfnod cais am dystiolaeth i ben ar 14 Rhagfyr 2011; Bod y tîm clercio’n sicrhau bod unrhyw fwlch o ran y dystiolaeth ysgrifenedig a ddaeth i law hyd yma’n cael ei lenwi. Er enghraifft, hoffai’r Pwyllgor gael tystiolaeth gan awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwn. |
||
P-04-342 Nyrsys MS Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor: I ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb; Y dylai’r tîm clercio wirio ymateb y Gweinidog i gwestiynau a ofynnwyd am y mater hwn mewn Cyfarfod Llawn yn ddiweddar; I ysgrifennu at y Byrddau Iechyd Lleol i holi am eu cynlluniau cyllidebu ar gyfer darparu’r Gwasanaeth yn y dyfodol. |
||
P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor: I wahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor; I ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn am y materion a godwyd yn y ddeiseb; I gyhoeddi cais am dystiolaeth ar y pwnc. |
||
09:40-10:45 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-03-144 Cŵn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor: Y dylid trosglwyddo’r wybodaeth ddiweddaraf a ddaeth i law gan Gymdeithas Cŵn Tywys y Deillion i’r Aelodau i’w hystyried; Y dylid cyflwyno’r wybodaeth hon i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau hefyd fel y gall y Pwyllgor drafod y materion a godwyd gyda’r Gweinidog yn y sesiwn tystiolaeth lafar nesaf. |
||
P-03-170 Cynyddu nifer y bobl ag anableddau dysgu a gyflogir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb hon. |
||
P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: O gofio bod swyddogion y Gweinidog yn cynnal trafodaethau ag Estyn ynglŷn â’r mathau o ddeunydd Cymraeg sydd eu hangen i gynorthwyo dysgwyr sydd â dyslecsia, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, ar yr amod bod croeso i’r deisebydd gysylltu â’r Pwyllgor eto os na fydd y cynllun i gomisiynu deunydd yn dwyn ffrwyth. |
||
P-04-325 Arian a fyddai’n galluogi disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig i gael mynediad i addysg ôl-16 prif-ffrwd Dogfennau ategol:
Cofnodion: O gofio y bydd Grŵp Datblygu a Gweithredu yn parhau â’r gwaith ar ariannu anghenion dysgu ychwanegol ôl-16, a gwaith Mencap ar hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-320 Polisi tai cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i nodi eglurhad y Gweinidog o’r term ‘cysylltiad lleol’, a chau’r ddeiseb. |
||
P-04-336 Papur Cymraeg dyddiol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a chyfeirio’r deisebwyr i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Rhagolygon ar gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru. |
||
P-04-329 Rheoli swn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor: I drefnu ymweliad safle ar gyfer aelodau’r Pwyllgor a oedd yn dymuno hynny; I drosglwyddo’r dystiolaeth a ddaeth i law i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w hystyried fel rhan o’i ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru; I ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnal ymweliad safle ar y cyd â’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd; I gomisiynu papur ymchwil ar y pwnc i’w ystyried yn y dyfodol. |
||
P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i drafod y mater gyda’r Gweinidog yn y sesiwn tystiolaeth lafar nesaf ac, yn benodol, i drafod unrhyw bolisi y seiliwyd y penderfyniad i beidio â darparu goleuadau gwell arno, a materion ynghylch awdurdodau lleol yn diffodd goleuadau stryd / goleuadau ar ochr y ffordd er mwyn arbed adnoddau. |
||
P-03-304 Gwelliant i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb hon. |
||
P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd fuddiant gan ei fod wedi cyhoeddi Datganiad Barn ar ddarlledu cyfarfodydd awdurdod parciau cenedlaethol ac wedi cefnogi Datganiad Barn gan William Graham AC, a oedd yn cefnogi’r materion hyn yn gyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor: I drafod y ddeiseb hon gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y sesiwn dystiolaeth nesaf; I gomisiynu gwaith ymchwil ar y gost o ffilmio cyfarfodydd cynghorau, a chynnwys barn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y mater. |
||
P-04-332 Manylion Gwariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor: I drafod y ddeiseb hon gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau pan fydd yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 10 Ionawr; I gomisiynu gwaith ymchwil ar y gost o gyhoeddi manylion gwariant sydd dros £500 gan awdurdodau lleol, ac a ellid cyfiawnhau’r gost o gyhoeddi’r wybodaeth hon os bydd gostyngiad yn nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a’r costau sy’n gysylltiedig ag ateb y ceisiadau hynny. |
||
P-03-085 Meddygfeydd yn sir y Fflint Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor: I ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr i ofyn am ei farn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb ac i ofyn a yw’n cynnal ymgynghoriad i’r materion hynny; I ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i ofyn am wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y cynlluniau arfaethedig i ailddatblygu canol tref y Fflint; I anfon yr ohebiaeth hon at Sandy Mewies AC a’r pedwar Aelod Cynulliad rhanbarthol. |
||
P-03-295 Kyle Beere - gwasanaethau niwroadsefydlu paediatrig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor: I ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ofyn am wybodaeth am nifer y plant sydd ag anghenion niwroadsefydlu cymhleth a oedd angen mynediad at wasanaethau Tadworth mewn blynyddoedd blaenorol er mwyn gallu deall maint y broblem yn llawn; I drosglwyddo’r ohebiaeth a ddaeth i law gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i’r deisebydd roi sylwadau arni; I ysgrifennu at Headway i ofyn am ei farn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. |
||
Papur i'w Nodi - P-04-337 Tenovus: Eli Haul am Ddim Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Trawsgrifiad |