Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kathryn Thomas

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF102KB) Gweld fel HTML (80KB).

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins.

Dirprwyodd Lindsay Whittle ar ran Bethan Jenkins yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125 Prawf Gwaed)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn am gwestiynau manwl y deisebydd, ac yn arbennig, pam nad oes camau'n cael eu cymryd ar unwaith i gyflwyno sgrinio, o gofio bod Treial Cydweithredol y DU o Sgrinio am Ganser yr Ofari (UKCTOCS) wedi dangos y gallai prawf gwaed blynyddol helpu i leihau'r nifer o fenywod sy'n marw o ganser o tua 20%; ac

·         argymell bod y Pwyllgor newydd yn ystyried gwneud darn byr o waith ar y mater.

 

2.2

P-04-669 Diddymwch Ddeddfwriaeth Rhentu Doeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i'w chau.  Wrth wneud hynny, ystyriwyd y ffaith bod y Cynulliad ond newydd basio Deddf Tai (Cymru) 2014 ac nad yw wedi cael ei rhoi ar waith yn llawn eto.

 

2.3

P-04-670 Ffilm am Owain Glyndŵr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a:

 

·         chroesawodd yr ymateb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a

·         chytunodd i aros am ymateb y deisebydd cyn ystyried y ddeiseb ymhellach.

 

2.4

P-04-671 Cyfreithloni Cymorth i Farw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:

·         gau'r ddeiseb o ystyried na ddylai fod wedi cael ei chyfrif yn dderbyniol adeg ei chyflwyno oherwydd yr ymddengys nad oes gan y Cynulliad y pŵer i weithredu'r ddeiseb; ac

·         wrth ysgrifennu at y deisebydd, cynnwys linc i'r trawsgrifiad o ddadl y Cyfarfod Llawn ar y mater a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2014.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-655 Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

·         Gomisiynydd y Gymraeg a'r Prif Weinidog i ofyn am eu barn am sylwadau'r deisebydd;

·         y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, sydd wedi cymryd tystiolaeth lafar yn ddiweddar gan y Comisiynydd ynghylch y pwynt hwn, i ofyn iddo ystyried sylwadau'r deisebwyr yn dilyn y sesiwn dystiolaeth honno a'r amserlen ar gyfer cwblhau eu gwaith ar y mater.

 

3.2

P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf a addawodd y Gweinidog a'i hystyried bryd hynny, ynghyd ag unrhyw sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

3.3

P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ac Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn eu barn ar y gwahaniaeth sydd i'w weld o ran y camau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru a Lloegr;

·         disgwyl yr ymateb gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain; a

·         gofyn am nodyn gan y Gwasanaeth Ymchwil yn nodi'r gwahaniaeth o ran y camau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru a Lloegr.

 

3.4

P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • disgwyl barn y deisebydd;
  • ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn gofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar y gwaith a gomisiynodd gan Gadw Cymru'n Daclus ynghylch sbwriel polystyren a'i effaith ar yr amgylchedd ac ar bob math o sbwriel arfordirol yng Nghymru, er mwyn canfod meysydd blaenoriaeth ar gyfer eu gwella; a
  • rhannu'r wybodaeth a gafwyd gan Gyngor Dinas Rhydychen gyda Rob Curtis, y prif ddeisebydd, a Gill Bell, Rheolwr Rhaglen Cymru ar gyfer y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

 

 

3.5

P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael sylwadau'r deisebydd am lythyr y Gweinidog cyn trafod y ddeiseb eto.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 5

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

5.

Gweithredu ar Ddeisebau Agored ar ddiwedd y Cynulliad Presennol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor y byddai deisebau'n cael eu gadael yn agored i'r Pwyllgor newydd eu trafod yn y Pumed Cynulliad.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ystyried rhestr o ddeisebau segur, gyda'r posibilrwydd o'u cau mewn cyfarfod yn y dyfodol.