Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 205KB) Gweld fel HTML (148KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-653 Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Aelodau y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

  • Mae Joyce Watson yn cefnogi'r ddeiseb, ac mae'n bosibl ei bod wedi'i llofnodi;
  • Mae William Powell yn cefnogi'r ddeiseb; ac
  • Mae Bethan Jenkins hefyd yn cefnogi'r ddeiseb ac wedi'i llofnodi ar wefan yr RSPCA.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddi:

·         wneud sylwadau ar sylwadau pellach y deisebydd;  

·         am ragor o wybodaeth am yr adolygiad, gan gynnwys manylion ynghylch yr amserlen debygol, sut y bydd y gwaith yn cael ei wneud, a'r sefydliadau y byddwn yn cysylltu â hwy;

·         gwneud sylwadau ar ba un a ellir defnyddio pwerau o dan adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i gyflwyno gwaharddiad, os yw tystiolaeth yr adolygiad annibynnol ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn awgrymu fod angen gwneud hynny; ac

·         a yw'n credu fod angen deddfwriaeth sylfaenol.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.3.

 

3.2

P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.3.

 

3.3

P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Bu William Powell yn cwrdd â'r deisebwyr mewn perthynas â P-04-564 (Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog).

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:

  • ofyn i'r Gweinidog, ar gais y deisebwyr ar gyfer deiseb P-04-564, ystyried adolygu'r materion a ganlyn:
    • y penderfyniadau a wnaeth BIPBC, mewn perthynas â materion sy'n peri pryder i'r deisebwyr, cyn iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig i sicrhau nad yw'r materion systemig a ganfuwyd ers hynny yn y Bwrdd Iechyd wedi  arwain at benderfyniadau diffygiol; a'r
    • cynlluniau gofal iechyd ar gyfer Ucheldiroedd Cymru gan gorff fel Cwmni Cydweithredol Gofal Iechyd Canolbarth Cymru;
  • ysgrifennu at y bwrdd iechyd i ddarparu manylion ynghylch canlyniadau'r gwaith o fonitro mynediad at wasanaethau mân anafiadau lleol yn Ucheldiroedd Cymru; ac
  • ar gais y deisebwyr ar gyfer deiseb P-04-479 (Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn), gofyn i'r bwrdd iechyd sut y maent wedi mynd i'r afael ag argymhelliad y cyngor iechyd cymuned y dylai'r bwrdd iechyd gael strategaeth ar gyfer cael mynediad at wasanaeth mân anafiadau amgen y tu allan i oriau agor Ysbyty Tywyn.

 

 

3.4

P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar yr ohebiaeth gan y bwrdd iechyd.

 

3.5

P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

  • ofyn am sylwadau gan y deisebydd, gan dynnu ei sylw yn arbennig at y cynnig i rannu cynnwys drafft terfynol y ddogfen Mamolaeth a Newyddenedigol ar y cyd, sy'n rhoi arweiniad i weithwyr iechyd proffesiynol, cyn iddo fynd at y Grŵp Llywio Newyddenedigol ym mis Tachwedd; a
  • gofyn am sicrwydd gan y prif swyddog meddygol y bydd hi'n gallu rhoi mewnbwn i'r drafft.

 

 

3.6

P-04-630 Rheoliadau Facebook ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         gau'r ddeiseb; ac

·         wrth gau'r ddeiseb, sicrhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r ohebiaeth ddiweddaraf a gofyn ei bod yn cael ei hystyried

 

3.7

P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd. Oni cheir ymateb gan y deisebydd cyn pen pedair wythnos, cytunwyd y dylid cau'r ddeiseb.

 

 

3.8

P-04-631 Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

  • aros am sylwadau gan y deisebydd;
  • ceisio ymateb gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a barn awdurdodau de Cymru a chanolbarth a gorllewin Cymru, yn ogystal ag anfon sylwadau'r RSPCA atynt; a
  • sicrhau bod pob un ohonynt yn ymwybodol o farn yr RSPCA

 

 

3.9

P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

  • anfon yr ymatebion a gafwyd gan Plant yng Nghymru a Fforwm Ieuenctid Powys i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gofyn am ei barn ac yn gofyn a yw'n fodlon ar y cynnydd sy'n cael ei wneud; a
  • gofyn i Plant yng Nghymru ymateb i sylwadau'r deisebwyr.

 

 

3.10

P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.11.

 

3.11

P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         dynnu sylw'r Dirprwy Weinidog at ymateb Animal Aid a gofyn am ei sylwadau ar gynigion pellach y sefydliad o ran sut y gellid defnyddio a monitro lluniau teledu cylch cyfyng.

·         gofyn i'r Dirprwy Weinidog am ei barn ynghylch a gaiff argymhelliad y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm, a'i datganiad ysgrifenedig, unrhyw effaith ar y mater o ladd heb stynio yn gyntaf, sydd ychydig yn wahanol. 

 

4.

Sesiwn Dystiolaeth - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Cenric Clement-Evans gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Item 6.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Trafod tystiolaeth lafar o dan eitem 4 ar yr agenda

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth, a chytunwyd y dylid aros am y sesiwn dystiolaeth lafar arfaethedig gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau.